Wrth i'r tymheredd ddisgyn, mae rhwydwaith o fannau diogel a chynnes sydd â'r gymuned yn ganolbwynt iddyn nhw yn darparu cymorth hollbwysig. Gan gynnig mwy na chynhesrwydd yn unig, mae'r mannau hefyd yn mynd i'r afael ag unigedd ac yn rhannu ysbryd yr ŵyl dros gyfnod y Nadolig a thu hwnt.
Mae'r mannau cymunedol yma – sef 'Mannau Diogel a Chynnes' – yn canolbwyntio ar ddod â thrigolion ynghyd, darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar, a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un wynebu dyddiau hir y gaeaf ar ei ben ei hun.
Mae'r syniad yn syml; waeth beth yw eich amgylchiadau, mae'r mannau'n cynnig lle diogel a chynnes lle gall pobl ddod ynghyd, mwynhau diod boeth a byrbryd, a hyd yn oed pryd o fwyd weithiau, dod o hyd i gwmni a chael gwybodaeth hanfodol pryd bynnag y bydd ei hangen arnyn nhw.
Ers lansio'r fenter yn 2022, mae Mannau Diogel a Chynnes wedi cefnogi dros 14,000 o drigolion, ac mae eu llwyddiant yn parhau bob blwyddyn. I raddau helaeth mae'r diolch am hyn i’r gwirfoddolwyr ymroddedig yn Rhondda Cynon Taf sy’n fodlon mynd yr ail filltir!
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Rwy'n meddwl bod hyn yn rhywbeth sy'n ymwneud â'r cymoedd. Pobl dda ydyn ni yma yn y cymoedd; rydyn ni'n bobl llawn cariad sy'n gofalu am ein gilydd. Rydyn ni'n cynnig croeso cynnes.
“Rwy mor falch o fod yn rhan o'r fenter. Mae gyda ni 96 o Fannau Cynnes a Diogel ledled RhCT, yn ogystal â'n llyfrgelloedd, felly mae hynny'n llawer mwy na 100 o fannau lle mae modd i bobl ddod i gadw'n gynnes, mwynhau pryd o fwyd a sgwrsio. Mae adeg yma'r flwyddyn yn aml yn llawn ysbryd y Nadolig i lawer, ond nid i bawb. Weithiau mae'n gallu amlygu unigrwydd.
“Rhannodd gwirfoddolwr o'r enw Adrian ym Man Diogel a Chynnes Penrhiwceiber ei brofiad gyda ni, gan ddweud sut mae wedi’i helpu ar ôl i’w wraig farw. Dyma pam rydyn ni yma – cysylltiad, cymuned a phobl - a dyma yn ei hanfod yw RhCT Gyda’n Gilydd. Nid yn unig y mae'r Mannau Diogel a Chynnes yma'n eich cynhesu ar y tu allan, ond fel y dywedodd un aelod o grŵp Llanharan, Liz wrthyn ni, maen nhw’n eich cynhesu o'r tu mewn, ac mae hynny'n ffordd hyfryd o'i mynegi. Fe wnaethon ni gyfarfod â Barbara ym Maerdy a disgrifiodd hi'r Mannau Diogel a Chynnes fel cymorth hanfodol y mae pawb yn elwa arno.
“Hoffwn i ddiolch yn bersonol i’r holl staff a gwirfoddolwyr ym mhob sector yn RhCT am y gwaith amhrisiadwy rydych chi i gyd yn ei wneud! Rydych chi'n gwneud gwahaniaeth enfawr yn y lleoedd cywir. Os ydych chi erioed wedi meddwl i ble mae ysbryd yr ŵyl neu ysbryd y gymuned wedi mynd – ewch i un o’r lleoedd yma, rwy'n gwybod eu bod nhw wedi fy helpu i i'w deimlo eleni!”
Mae'r fenter wedi ehangu ei chyrhaeddiad a'i heffaith yn sylweddol, ac eleni mae mwy o Fannau Diogel a Chynnes ar agor nag erioed o'r blaen, gyda thua 108 o leoliadau yn derbyn cyfran o werth £125,000 o gyllid Mannau Diogel a Chynnes Llywodraeth Cymru.
Mae hyn yn ychwanegol at dros £2.5 miliwn mae'r Cyngor wedi'i gael o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a ffynonellau cyllid allanol eraill. Mae hyn wedi'i ddyfarnu i grwpiau cymunedol yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol i helpu i gefnogi'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud ledled ein bwrdeistref sirol.
Mae'r Mannau Diogel a Chynnes bellach ar agor, a byddan nhw'n darparu lleoliad diogel i bobl gadw'n gynnes, cael byrbryd, paned a sgwrs.
Os ydych chi'n teimlo'n oer ac angen lle diogel i aros yn gynnes, cael byrbryd, paned a sgwrs, neu wefru eich ffôn symudol, derbyn cyngor am ddim yn ymwneud ag ynni a hyd yn oed cymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim, yna mae'r mannau yma ar gael i chi a'ch teulu.
Bydd pob un o 13 o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn Fan Diogel a Chynnes y gaeaf yma, a bydd modd i drigolion fynd yno am groeso cynnes a lle i ymlacio a gwefru eu dyfeisiau symudol.
Meddai aelod o Garfan Datblygu’r Gymuned y Cyngor, Rhiannon Edwards, sy'n Gydlynydd Bwyd RhCT:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi nhw. Mae hyn yn fwy na chynhesrwydd yn unig, mae'n gymorth hanfodol a diamod.
“I lawer o drigolion, nid rhywle moethus iddyn nhw yw’r Mannau Diogel a Chynnes, ond rhywle angenrheidiol, gan roi rheswm i bobl godi, gwisgo, a bod yn rhan o gymuned. Nod y fenter yn benodol yw lleddfu pwysau ariannol, gan fod llawer o'r rheiny sydd yno yn dod oherwydd "nad oes rhaid iddyn nhw droi eu gwres ymlaen" gartref, ond maen nhw'n aml yn gadael gyda ffrindiau newydd ac yn llawn ysbryd y gymuned.
“Mae natur groesawgar y Mannau Diogel a Chynnes yn helpu i leihau ynysigrwydd cymdeithasol, yn enwedig i’r henoed, ac yn cynnig cyfle amhrisiadwy i ymwneud ag eraill mewn ffordd gymdeithasol. Mae'r awyrgylch wedi'i ddisgrifio fel "mor hyfryd a chyfeillgar," ac mae'r rhyngweithio cymdeithasol "yn rhoi hwb i chi" a "theimlad cynnes y tu mewn i chi."
Y Nadolig yma, mae'r Mannau Diogel a Chynnes yn enghraifft bwerus o gryfder y gymuned, gan gynnig gobaith, cynhesrwydd a chyfeillgarwch hanfodol i filoedd o drigolion ledled Rhondda Cynon Taf.
I ddod o hyd i'ch Man Diogel a Chynnes agosaf ewch i Mannau Diogel a Chynnes | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Mae modd i drigolion sy'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw ar unrhyw adeg gysylltu â Chanolfannau Cydnerthedd y Gymuned y Cyngor drwy lenwi 'ffurflen gais am gymorth' ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/costaubyw.
Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan Staff y Cyngor, Gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned, Partneriaid Trydydd Sector a Phartneriaid Cymunedol.
Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf dderbyn cyngor yn ymwneud â'r gwasanaethau sydd ar gael hefyd drwy Garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:
- Cymorth Grant neu Fenthyciad – efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi
- RCT Switch – cyngor diduedd am ddim ynglŷn â newid tariff
- Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed ynni yn y cartref
- Cyngor ynghylch dyled cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr)
- Cyngor ynghylch gwneud y mwyaf o'ch incwm a rheoli arian. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/gwresogiacarbed neu e-bostiwch y Garfan: gwresogiacarbed@rctcbc.gov.uk.
Am fanylion llawn a lleoliadau'r Mannau Diogel a Chynnes, ewch i www.rctcbc.gov.uk/mannaudiogelachynnes ac am gyngor cyffredinol am y cymorth costau byw sydd ar gael, ewch i www.rctcbc.gov.uk/costaubyw
Wedi ei bostio ar 22/12/2025