Y Nadolig yw'r "Amser gorau i Ailddefnyddio ac Ailgylchu" ac mae ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cymryd rhan mewn heriau arbennig er mwyn dangos hynny!
Rydyn ni wedi derbyn dros 100 o ddarnau o waith creadigol yn rhan o gystadleuaeth 'Yr Amser Gorau i Ailddefnyddio' y Nadolig, ac mae'r rhain wedi bod yn anhygoel - gan ddangos unwaith yn rhagor mor dalentog yw pobl ifainc Rhondda Cynon Taf!
Roedd yr her, a gafodd ei hanfon i bob ysgol ledled y Fwrdeistref Sirol, yn gofyn i'r plant iau (Cyfnod Sylfaen) greu addurn Nadolig allan o ddeunyddiau gwastraff ac eitemau nad oedd eu heisiau mwyach, ac yn gofyn i'r plant hŷn (Cyfnod Allweddol 2) ddylunio poster lliwgar yn dangos pa mor hyfryd yw AILDDEFNYDDIO yn ystod cyfnod y Nadolig.
Mae'r gystadleuaeth yn cysylltu ag ymgyrch ailgylchu eleni, o'r enw "Yr Amser Gorau i Ail..." sy'n sefyll am – Ailddefnyddio, Ailwampio, Ailgylchu ac Ailgynhesu a’r gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth am ailddefnyddio, ailwampio neu ail-roi eitemau, ailgylchu popeth y mae modd i ni ei ailgylchu a lleihau gwastraff bwyd yn ystod y Nadolig; y cwbl er mwyn codi calonnau a sicrhau blwyddyn newydd sy'n fwy gwyrdd i ni i gyd!
Ar ôl llawer o drafod, dyma enillwyr y ddau gategori;
- Noah Phelan, Blwyddyn 1, Ysgol Gynradd Tylorstown.
- Imogen o Ysgol Gynradd Cwmdâr.
Bydd yr ysgolion buddugol yn derbyn gwobr o £100 yr un.
Bydd Noah ac Imogen hefyd yn derbyn taleb gwerth £20 am eu hymdrechion gwyrdd.
O ganlyniad i'r gwaith creadigol rhagorol a gafodd ei gyflwyno eleni, penderfynwyd dewis dau enillydd yr ail safle yn y ddau gategori, a dderbyniodd daleb gwerth £15 yr un. Enillwyr yr ail safle oedd:
- Jac Winter, Blwyddyn 1, Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon
- Thomson Hughes, Blwyddyn 1, Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon
- Jacob Azzopardi, Blwyddyn 6, Ysgol Gynradd Brynnau
- Jake Howell-Jones, Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd, a gafodd y dasg anodd o ddewis yr enillwyr:
"Mae'r gwaith creadigol sydd wedi dod i law wedi bod yn rhagorol. Dyma un o'r cystadlaethau mwyaf anodd rydw i wedi gorfod dewis enillydd ar ei chyfer, roedd pob un yn ardderchog.
"Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr her a llongyfarchiadau i'n henillwyr, Imogen a Noah! Rydw i'n gobeithio y bydd ein trigolion gwyrdd yn parhau â'r gwaith gwych ac yn ein helpu ni i gael y Nadolig MWYAF GWYRDD a di-wastraff erioed.
"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i ddal ati gyda'r gwaith ardderchog drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth.
"Mae cefnogaeth ein trigolion tuag at ein gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd wedi bod yn anhygoel - Eleni, rydyn ni'n falch o ddweud ein bod ni wedi bwrw targed 70% Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 a bod cynnydd o 21% wedi bod yn y gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu a gostyngiad o 33% yn y gwastraff bagiau du a gafodd ei gasglu, yn ogystal â chynnydd o 11% yn y gwastraff sych i'w ailgylchu!
“Rydw i'n siŵr, gyda’n gilydd, y bydd modd i ni barhau â’r ymdrech fawr a sicrhau ein bod ni'n parhau i fwrw unrhyw darged a osodir gan Lywodraeth Cymru a gwneud 2026 yn flwyddyn newydd hyd yn oed yn fwy gwyrdd!”
Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff dros y Nadolig, dilynwch ni ar Facebook neu Instagram neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig.
Wedi ei bostio ar 22/12/2025