Mae cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Hirwaun bellach wedi cyrraedd ei drydydd lleoliad, sef y lleoliad olaf – y rhan yn y llun o Stryd Harris a Heol Aberhonddu.
Dechreuodd ail gam y cynllun sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2024. Y bwriad yw cryfhau diogelwch y ffyrdd a gwella pethau i gerddwyr ledled y pentref, gan gynnwys mannau croesi diogel newydd.
Cafodd gwaith i osod seilwaith ar gyfer croesfan newydd ar y Stryd Fawr/Rhes Davies ei orffen yn gyntaf, gan wneud cynnydd da cyn y Nadolig.
Symudodd y cynllun wedyn i gyffordd Ffordd y Rhigos/Heol Aberhonddu ym mis Ionawr 2025, sef lleoliad croesfan sebra newydd, ac mae seilwaith wedi'i gwblhau yma'n ddiweddar.
Mae contractwr y Cyngor, Calibre Contracting Ltd, bellach wedi symud i'r trydydd lleoliad, sef y lleoliad olaf, ar Stryd Harris/Heol Aberhonddu, gan ddechrau o ddydd Mercher 19 Chwefror. Mae hyn yn dilyn gwaith sydd wedi'i gwblhau'n ddiweddar gan Wales and West Utilities ar Stryd Harris.
Bydd y gwaith Llwybrau Diogel yn cynnwys gwella ac uwchraddio'r groesfan sebra bresennol ar gyffordd Stryd Harris a Heol Aberhonddu, ynghyd â chyfyngiadau parcio ychwanegol ar Stryd Harris i wella diogelwch.
Bydd angen cynllun rheoli traffig dros dro ar gyfer rhai elfennau o'r gwaith, gan gynnwys goleuadau dros dro a thraffig unffordd ar Stryd Harris.
Yna bydd gwaith gosod wyneb newydd terfynol yn digwydd ym mhob un o'r tri lleoliad, tra bydd gwaith cysylltu'n cael ei wneud i roi'r tair croesfan newydd ar waith. Bydd y gwaith yma'n cael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2025.
Cafodd rhagor o fanylion am gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Hirwaun eu rhannu ar ddechrau'r gwaith. Mae'r wybodaeth i'w gweld yma.
Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad parhaus.
Wedi ei bostio ar 21/02/2025