Skip to main content

Cyflawni gwelliannau pellach i gerddwyr yn Hirwaun

Hirwaun SRIC grid - Copy

Bydd gwaith yn dechrau ar gam nesaf cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer Hirwaun – i gyflawni gwelliannau pellach i gerddwyr ac o ran diogelwch ar y ffyrdd mewn lleoliadau wedi'u targedu ledled y pentref, gan gynnwys mannau croesi diogel newydd.

Y llynedd, cyflawnodd y Cyngor waith i wella diogelwch ar y ffyrdd a chreu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr yn lleol. Roedd y gwaith yn amrywio o fesurau lleihau cyflymder i gyfleusterau gwell a llwybrau troed newydd. Cafodd astudiaeth ddichonoldeb ei chynnal hefyd i groesfannau newydd i gerddwyr wedi'u rheoli mewn lleoliadau allweddol, er mwyn gwella diogelwch.

Yn ystod mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod y Cyngor bellach wedi sicrhau £379,350 ychwanegol o gronfa ddiweddaraf Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, gan alluogi’r cynllun yn Hirwaun i barhau i’r ail flwyddyn arfaethedig. Cyhoeddodd y Cyngor Hysbysiadau Cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2023 ar gyfer y gwaith arfaethedig yng ngham dau, ac ers hynny mae wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gyflawni’r cam yma o’r gwaith.

Bydd y contractwr yn cwblhau gwaith gosod safle yr wythnos yma, sy'n golygu y bydd modd i'r cam adeiladu ddechrau o ddydd Llun 11 Tachwedd.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal mewn tri phrif leoliad – Stryd Fawr (mewn lleoliad ger Rhes Davies), Ffordd y Rhigos (ar gyffordd Heol Aberhonddu), a chyffordd Heol Aberhonddu/Stryd Harris. Bydd y contractwr yn canolbwyntio ar un lleoliad ar y tro, cyn symud ymlaen i’r nesaf – a bydd yn dechrau ar y Stryd Fawr o 4 Tachwedd. Dylai'r prosiect cyffredinol gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2025.

Bydd y prosiect cyffredinol yn cynnwys yr elfennau canlynol: 

  • Uwchraddio'r groesfan bresennol i gerddwyr ar gyffordd Heol Aberhonddu a Stryd Harris. 
  • Estyniad i’r cyfyngiadau ‘dim aros ar unrhyw adeg’ ar Stryd Harris, drwy gyflwyno llinellau melyn dwbl, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth ddynesu at y groesfan newydd i gerddwyr. 
  • Gweithredu dwy groesfan sebra newydd yn y ddau brif leoliad gwaith arall yn y cynllun, ar y Stryd Fawr a Ffordd y Rhigos.

Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu defnyddio ym mhob lleoliad er mwyn hwyluso'r gwaith adeiladu. Fodd bynnag, bydd y contractwr yn defnyddio'r mesurau rheoli traffig yma y tu allan i'r cyfnodau prysuraf lle bo modd, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y traffig lleol. Bydd angen cau rhai ffyrdd lleol er mwyn galluogi elfennau penodol o'r gwaith - bydd trigolion yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y trefniadau wedi'u cwblhau.

Bydd y Cyngor yn anfon llythyr i'r trigolion lleol sy'n byw ger y lleoliadau gwaith yn Hirwaun i'w hysbysu o'r gwaith ac egluro'r cynllun.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r Cyngor wedi croesawu cyllid gwerth tua £730,000 gan Lywodraeth Cymru dros ddwy flynedd, gan alluogi’r gwelliannau Llwybrau Diogel hyn i gael eu cyflawni yn Hirwaun dros y misoedd nesaf. Bwriad y rhain yw cynyddu diogelwch ar y ffyrdd a chreu amgylchedd gwell i drigolion sy'n cerdded teithiau lleol yn y gymuned - gan gynnwys teuluoedd yn teithio i’r ysgol ac oddi yno bob bore a phrynhawn.

“Mae llawer o fanteision i'w cael o gerdded teithiau lleol, o wella iechyd a lles pobl i leihau tagfeydd ar y ffyrdd a diogelu’r amgylchedd. Yn ogystal â’r gwaith sydd i ddod yn Hirwaun, rydyn ni hefyd wedi cyflawni cynlluniau Llwybrau Diogel wedi’u targedu tebyg yn y Ddraenen Wen a Phentre’r Eglwys yn ystod 2024 – i ategu buddsoddiadau mawr o ran addysg yn y ddwy gymuned. Mae’r ddau brosiect yma hefyd wedi elwa ar gyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r contractwr a benodwyd ar gyfer cynllun Hirwaun wedi bod yn cynnal gwaith paratoi'r safle yn ddiweddar, cyn y cyfnod adeiladu o 11 Tachwedd. Yn rhan o'r gwelliannau, bydd dau fan croesi newydd yn cael eu creu a bydd un arall yn cael ei uwchraddio. Bydd angen mesurau rheoli traffig ar wahanol adegau, er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu, cerddwyr a defnyddwyr y ffyrdd. Byddwn ni'n gweithio'n galed i darfu cyn lleied â phosibl ar y traffig lleol, gan gynnwys osgoi'r cyfnodau prysuraf ar gyfer y gwaith sy'n tarfu fwyaf. Diolch i'r gymuned am eich amynedd a'ch cydweithrediad.”

Wedi ei bostio ar 05/11/2024