Skip to main content

Gwaith gosod goleuadau traffig newydd yn Nhrebanog yn ystod gwyliau ysgol

Trebanog lights grid

Bydd y Cyngor yn cynnal gwaith gosod goleuadau traffig newydd yn ardal Trebanog yn ystod wythnos hanner tymor i darfu cyn lleied â phosibl.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar gyffordd Heol Trebanog, Heol Rhiwgarn ac Heol Edmondstown (i’w gweld yn y llun).

Mae newid y goleuadau traffig presennol yn hanfodol. Bydd goleuadau LED newydd mwy effeithlon o ran ynni yn cael eu gosod.

Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys gosod system canfod cerbydau well ar y gyffordd, ac offer monitro newydd.

Bydd gwaith yn cychwyn ddydd Sul 23 Chwefror ac yn para wythnos.

Bydd goleuadau traffig pedair ffordd dros dro yn cael eu defnyddio wrth y gyffordd wrth i'r goleuadau parhaol gwell gael eu gosod, ynghyd â chroesfannau dros dro i gerddwyr.

Centregreat Ltd yw'r contractwr penodedig ar gyfer y cynllun ac ariennir y gwaith drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd 2024/25 y Cyngor.

Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o oedi nad oes modd ei osgoi yn ystod y cyfnodau teithio prysuraf. Diolch ymlaen llaw i ddefnyddwyr y ffyrdd a’r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 18/02/2025