Skip to main content

Y Cabinet yn Cymeradwyo Ymgynghoriad ar Fodel Gofal Seibiant ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu

RCTLOGO

Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar fodel arfaethedig a fyddai'n gwella gofal seibiant i oedolion ag anableddau dysgu. Bydd yr ymgynghoriad yn para am wyth wythnos. Enw'r model yma yw Fy Arhosiad i, Fy Ffordd i, ac mae wedi'i lunio ar y cyd ag oedolion ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, cynhalwyr, a phartneriaid allweddol, er mwyn sicrhau bod dyfodol y gwasanaethau seibiant yn parhau i gael ei lywio gan ddefnyddwyr.

NodFy Arhosiad i, Fy Ffordd i yw moderneiddio gofal seibiant drwy gyflwyno ystod ehangach o opsiynau hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cefnogi dewisiadau ac anghenion y defnyddwyr yn well, gan hyrwyddo annibyniaeth, urddas a lles. Bydd y model yn cyflwyno tair haen o gefnogaeth, gan gynnwys:

  • Dewisiadau Seibiant yn y Gymuned: Mae'r rhain yn cynnwys y cynllun Cysylltu Bywydau, Taliadau Uniongyrchol, mynediad i glybiau lleol, a hyrwyddo annibyniaeth ac integreiddio cymunedol.
  • Cymorth ar gyfer Anghenion Cymhleth: Lleoliadau seibiant strwythuredig sy'n cynnig cyfleoedd therapiwtig a hamdden i wella lles unigolion sydd angen cymorth mwy dwys.
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyfunol: Helpu'r rhai sydd ag anghenion iechyd sylweddol gan ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar ffurf gwaith ar y cyd rhwng y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cafodd y model yma'i lunio gan waith ymgysylltu â phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, cynhalwyr di-dâl, a rhanddeiliaid eraill, ac mae wedi cynnwys arolygon, sesiynau galw heibio, a gweithdai gyda sefydliadau fel Pobl yn Gyntaf, Grapevine, Cysylltu Bywydau, ac eraill. Tynnodd adborth o'r sesiynau yma sylw at bwysigrwydd staff dibynadwy, gofal cyson, a phrofiadau seibiant mwy hyblyg a chyfoethog, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 30 Mehefin, 2025, ac mae'n rhan o Raglen Trawsnewid Anableddau Dysgu'r Cyngor, sydd eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol drwy fentrau fel Fy Niwrnod i, Fy Newis i a Fy Nghartref i, Fy Newis i. Mae'r ddau gynllun yma wedi dangos bod gwaith ar y cyd yn fframwaith da ar gyfer cefnogi newid mewn gwasanaethau.

Rydyn ni'n gwahodd defnyddwyr y gwasanaeth, eu cynhalwyr di-dâl, teuluoedd ac unrhyw un arall sy'n eu helpu nhw i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, yn ogystal â staff seibiant a gofal, darparwyr lleol, a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd modd i bobl ag anableddau dysgu, eu cynhalwyr di-dâl a'u teuluoedd, gael cymorth i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a fydd yn cynnwys:

  • Pecyn gwybodaeth sy'n nodi'r model arfaethedig mewn fformat clir a hygyrch.
  • Cyfle i ddod i sesiynau ymgynghori wyneb yn wyneb i glywed rhagor am y model arfaethedig.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  “Mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i lunio dyfodol gofal seibiant yn Rhondda Cynon Taf ar y cyd, drwy gynnwys unigolion sy’n dibynnu ar y gwasanaethau yma yn y broses.  Dydy hyn ddim yn ymwneud â lleihau cymorth. Y nod yw trawsnewid gwasanaethau i ddarparu rhagor o ddewis, urddas a hyblygrwydd i'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw.

“Bydd addasu'r system gyffredinol sydd ar waith ar hyn o bryd yn sicrhau bod modd i bobl dderbyn y math o ofal seibiant sy'n gweddu orau i'w hanghenion a'u dyheadau amrywiol nhw, gan sicrhau datblygiad gwasanaethau amgen sy'n darparu opsiynau cynaliadwy a chymunedol.

“Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 30 Mehefin ac yn para am wyth wythnos. Bydd e'n caniatáu i bobl ag anableddau dysgu, yn ogystal â'u cynhalwyr a’u teuluoedd, i ddweud eu dweud ar bob agwedd ar y gwelliannau arfaethedig. Bydd hyn yn sicrhau bod ein bod ni'n rhoi ystyriaeth lawn i safbwyntiau'r rheiny sy'n cael y gofal yma.

“Drwy ymgysylltu â’r gymuned, mae modd i ni sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu gwella’n barhaus er mwyn rhoi'r cymorth gorau i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Rydw i'n annog pawb sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma i gymryd rhan yn y broses ymgynghori. Bydd eich adborth yn hollbwysig wrth i ni fynd ati i lunio gwasanaethau seibiant y dyfodol.”

Am ragor o fanylion ynghylch sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae modd i drigolion ymweld â’r wefan Dewch i Siarad RhCT. Bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r ymgynghoriad i randdeiliaid allweddol, ac i'r cyhoedd, mewn amrywiaeth o ffyrdd - gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am ofal seibiant yn Rhondda Cynon Taf, ewch i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/AdultsandOlderPeople/Caringforotherpeople/Supportforcarers/Respitecare.aspx

Wedi ei bostio ar 18/06/2025