Skip to main content

Gofal seibiant

Mae gofal seibiant, neu ofal tymor byr, yn wasanaeth ar gyfer cynhalwyr a'r unigolion sy'n derbyn eu gofal.

Mae gwasanaethau gofal seibiant yn gofalu am berson dibynnol dros dro fel bod y cynhaliwr yn gallu cael seibiant. Dylai seibiannau o'r fath roi profiad cadarnhaol i’r person sy’n derbyn y gofal yn ogystal â’r cynhaliwr, er mwyn gwella ansawdd eu bywydau a chefnogi’u perthynas. Gall y gwasanaethau ymestyn dros unrhyw gyfnod, o ychydig o oriau hyd at ychydig o wythnosau.

Dyma’r mathau o ofal seibiant rydyn ni’n gallu darparu:

  • Gofal dros nos neu yn ystod y dydd mewn cartref preswyl (ar gyfer pobl hŷn)
  • Gofal dydd mewn canolfannau sy’n darparu gweithgareddau strwythuredig (ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl)
  • Gwarchod dros nos yng nghartref y person ei hunan (ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl)
  • Gwarchod yng nghartref y person ei hunan ar nosweithiau neu benwythnosau (ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl)
  • Taliadau Uniongyrchol i’ch galluogi i drefnu’r gofal seibiant sydd ei angen i gwrdd â’ch anghenion chi a rhai’r person rydych chi’n gofalu amdano (pob defnyddiwr gwasanaeth cymwys a’i gynhalwyr)
  • Gofal dros nos mewn tŷ gofal tymor byr arbenigol (ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu)
  • Gofal dydd a dros nos mewn ysbyty (ar gyfer pobl sydd ag anghenion meddygol)
  • Gofal mewn hosbis neu ysbyty (ar gyfer pobl sydd ag afiechyd terfynol)

Pwy sy’n cael gofyn am ofal seibiant?

Mae gofal seibiant ar gael i bobl sy’n rhoi gofal sylweddol i eraill.

Gall eich meddyg teulu roi cyngor i chi ar y gofal seibiant sydd ar gael mewn ysbyty neu hosbis.

Fydd rhaid i mi dalu am y gwasanaeth yma?

Mae rhaid talu ffi ar gyfer gwasanaethau gofal seibiant i oedolion, gan ddibynnu ar y math o ofal sy’n cael ei roi, hyd cyfnod y gofal, a gallu’r person (yn ôl asesiad) rydych chi’n gofalu amdano, i dalu. Byddwn ni'n rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynglŷn â'r costau posibl cyn i chi ddefnyddio'r gwasanaeth, fel na fyddwch chi'n derbyn unrhyw filiau annisgwyl.

Sut rydw i’n gwybod bydd y gwasanaethau yn ddibynadwy? 

Mae cyfrifoldeb gyda ni dros sicrhau bod y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu neu’n eu hargymell o safonau uchel. Rhaid i gartrefi preswyl fod wedi cael eu cofrestru ac i gyrraedd y statws yna, rhaid iddyn nhw gwrdd â safonau penodol. Maen nhw’n cael eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau eu bod nhw'n parhau i gwrdd â’r safonau angenrheidiol.

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau i oedolion yn eu cartrefi eu hunain (asiantaethau gofal yn y cartref) gyrraedd safonau penodol hefyd.  Mae cefndir staff yn cael ei archwilio’n fanwl ac mae hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu cynnig i wneud yn siŵr bod y staff yn gymwys i ymgymryd â’u dyletswyddau.

Beth i’w wneud os nad ydych chi’n fodlon

Os nad ydych chi’n cytuno â’ch asesiad na’r ffi arfaethedig ar gyfer y gwasanaeth, gallwch chi ofyn am ailasesiad.  Os ydych chi’n anhapus gyda maint neu ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, dylech chi drafod hyn gyda’ch rheolwr gofal.

Sut i gael rhagor o wybodaeth am ofal seibiant yn eich ardal chi

Cewch chi wybodaeth am wasanaethau lleol trwy gysylltu â’n Carfan Ymateb ar Unwaith. 

Carfan Ymateb ar Unwaith
E-bost  GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425003

Mae'r Gwasanaeth Argyfwng y tu allan i Oriau Swyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar wyliau banc ac ar benwythnosau. Ffôn: 01443 743665.