Skip to main content

Wythnos Gweithredu Dros Dementia 2025: Ymgyrch Troi Ponty'n Las yn Uno'r Gymuned

DAW ENG

Daeth Rhondda Cynon Taf a chymuned ehangach Cwm Taf Morgannwg at ei gilydd mewn undod yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Dementia 2025, gan nodi blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer ymgyrch Troi Ponty'n Las. Rhwng 19 a 25 Mai, daeth cymunedau, sefydliadau ac arweinwyr lleol at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth, darparu cymorth a chefnogi'r rheiny sy'n cael eu heffeithio gan dementia.

Trwy gydol yr wythnos, cafodd yr ardal ei thrawsnewid gyda rhubanau glas a baneri, a chafodd adeiladau eu goleuo’n las, er mwy symboleiddio ein hymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn gymuned sy'n deall dementia.

Cafodd rhaglen amrywiol o achlysuron sy’n deall dementia ei chynnal gan ddod â phobl at ei gilydd. Roedd hyn yn cynnwys perfformiad gan Gôr Ysgol Gynradd Maes Y Coed, Disgo'r 70au yng Nghanolfan Calon Taf, nifer o sesiynau creadigol wedi'u harwain gan Growing Space Pontypridd, a llawer yn rhagor‒ gyda phob un yn cynnig cyngor, cymorth, a chyswllt hollbwysig i'r unigolion hynny sy'n byw gyda dementia, a'u hanwyliaid.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn: "Mae dementia yn parhau i gynrychioli un o'r heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf enbyd yn ein hoes. Mae ymgyrchoedd fel Wythnos Gweithredu Dros Dementia a Throi Ponty'n Las yn chwarae rhan bwysig o ran meithrin dealltwriaeth, darparu cymorth, a rhoi cyfle i ni ddod â'n cymuned at ei gilydd.

Mae'r wythnos yma wedi dangos cryfder ein cymuned a phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth. Diolch i bawb a gymerodd rhan am eich ymdrechion ‒ p’un a ydych chi wedi helpu y tu ôl i'r llenni, wedi cynnal achlysur, neu wedi mynychu achlysur, mae eich angerdd chi wedi cael effaith wirioneddol gan sicrhau bod neb yn wynebu dementia ar ben ei hun."

Roedd Wythnos Gweithredu Dros Dementia yn llwyddiannus o ganlyniad i ymrwymiad y staff, gwirfoddolwyr, a phartneriaid cymunedol. Mae'r Cyngor yn estyn ei ddiolch i garfan RhCT Gyda'n Gilydd am drefnu achlysur llwyddiannus, ac i'r Maer - Y Cynghorydd Sheryl Evans, Y Cynghorydd Gareth Caple, a'r Cynghorydd Christina Leyshon, am eu cefnogaeth barhaus.

Yn ogystal, rhoddwyd diolch i'n grwpiau cymunedol gan gynnwys Grŵp Llywio Pontypridd sy’n Deall Dementia, ysgolion lleol, Hannah o Growing Space Pontypridd, Amgueddfa Pontypridd, Prifysgol de Cymru, Canolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg, Aelwyd Housing, Trivallis, Effro Carer Connect, Calon Taf, YMa, a llawer yn rhagor!

Adlewyrchodd Ceri Higgins, Cadeirydd Grŵp Llywio Pontypridd sy’n Deall Dementia ar effaith yr ymgyrch trwy ddweud: "Diben Troi Ponty'n Las yw creu cysylltiadau. Mae'n dod â phobl at ei gilydd gan sicrhau bod y rheiny sy'n cael eu heffeithio gan dementia'n teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi, ac yn dathlu pŵer cymuned."

Ar ddiwedd yr wythnos, cadarnhaodd y trefnwyr eu hymrwymiad i fentrau sy'n codi ymwybyddiaeth o dementia ac yn cynnig cymorth parhaus, gan sicrhau bod y momentwm yn parhau y tu hwnt i Wythnos Gweithredu Dros Dementia.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau cymorth dementia, ewch i: Dementia Connect Rhondda Cynon Taf | Alzheimer's Society

Neu mae modd ffonio 0330 094 7400 (Llinell Gymraeg) neu e-bostio DementiaSupportLine@alzheimers.org.uk

Fel arall, cysylltwch â Charfan Lles RhCT trwy ffonio 07526 571340, neu e-bostio wellbeing@interlinkrct.org.uk

Wedi ei bostio ar 25/06/2025