Mae dyn o Bentre'r Eglwys a fethodd â mynychu cyfweliad Gorfodi Tipio Anghyfreithlon wedi cael dirwy o bron i £1000 yn ei absenoldeb yn Llys Ynadon Merthyr Tudful.
Cafodd William Jones o Heol yr Orsaf, Pentre'r Eglwys, ei wahodd i fynychu cyfweliad o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984 mewn perthynas â rhywfaint o sbwriel a oedd wedi’i dipio’n anghyfreithlon.
Fe wnaeth Swyddog Gorfodi Gofal y Strydoedd ddarganfod pentwr mawr o wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar ochr y ffordd yn hen Heol Roman, Ynys-y-bwl. Roedd y gwastraff yn cynnwys gwastraff adeiladwyr – bwrdd plastr, defnydd inswleiddio toeau, ffelt toeau, pren ac estyll llawr. Yn dilyn ymchwiliad ac ymholiadau manwl, datgelwyd tystiolaeth a oedd o bosibl yn cysylltu'r gwastraff a gafodd ei dipio â William Jones.
Fe wnaeth y Swyddog Gorfodi Gofal y Strydoedd wahodd Mr Jones i fynychu TRI chyfweliad o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a chafodd pob gwahoddiad ei anwybyddu. Felly, doedd dim dewis gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ond cyfeirio'r mater i'r llys.
Cafodd Mr Jones wybod am y penderfyniad ac mae wedi methu â chysylltu â'r garfan Gofal y Strydoedd i drafod y mater o hyd.
Mae gan Swyddogion Gorfodi'r Cyngor bwerau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth benodol. Mae modd iddyn nhw roi hysbysiadau cosb sefydlog i unigolion a busnesau ac mae modd iddyn nhw ddefnyddio nifer o ddulliau i ymchwilio i droseddau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, gan gynnwys cyfweliadau PACE. Caiff yr hysbysiadau a'r ceisiadau yma eu cyhoeddi i'r rhai a allai fod wedi cyflawni neu sy'n gyfrifol am droseddau penodol, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â rheoli gwastraff a thipio anghyfreithlon.
Drwy fethu â chydymffurfio â'r Hysbysiad yn unol ag Adran 108(4)(c) a (l) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 drwy beidio â mynychu cyfweliad PACE pan ofynnwyd a gwrthod rhoi gwybodaeth neu ymgysylltu â swyddogion, roedd Mr Jones felly wedi cyflawni trosedd o dan Adran 110(2)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Adran 110 Deddf yr Amgylchedd 1995 - Mae'n drosedd i berson rwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer neu gyflawni ei bwerau neu ei ddyletswyddau.
Mae'r garfan Gofal y Strydoedd ymroddedig yn chwarae rhan allweddol ledled y Fwrdeistref Sirol wrth sicrhau bod ein cwm hardd yn cael ei gadw'n lân ac yn daclus, ac yn rhydd o'r llanast y mae tipwyr anghyfreithlon yn ei greu. Mae'r achos diweddaraf yma yn tynnu sylw at bwysigrwydd y swyddogion yma ac yn anfon neges glir i'r cyhoedd bod angen dilyn eu cyfarwyddyd, neu efallai y bydd angen i chi fynd i'r llys. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad ac os na fyddwch chi'n bresennol, mae modd i ni gymryd camau gweithredu, ac fe fyddwn ni’n gwneud hynny – does dim modd i chi ddianc.
Cafodd Mr William Jones ei ganfod yn euog yn ei absenoldeb yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 4 Mehefin 2025 am fethu â mynychu cyfweliad PACE – mae wedi derbyn DIRWY o £440, costau gwerth £370 a gordal dioddefwr gwerth £176, cyfanswm o £986!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Dyw tipio'n anghyfreithlon ddim yn cael ei ganiatáu, BYTH. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, ein lonydd, ein strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif – hyd yn oes od ydyn nhw'n ceisio ein hanwybyddu.
"Er gwaethaf nifer o wahoddiadau, dewisodd Mr Jones anwybyddu ein ceisiadau ac mae bellach wedi cael dirwy sylweddol a chofnod troseddol gan y llys.
"Mae ein carfanau'n gweithio'n galed i gadw ein strydoedd a'n lonydd yn lân, ac ni fydd tipio anghyfreithlon o unrhyw fath yn cael ei oddef."
"Hoffen ni hefyd atgoffa perchnogion tai neu fusnesau, os ydych chi'n talu rhywun, heblaw'r Cyngor, i gael gwared ar eich gwastraff, y dylech chi bob amser wirio bod gyda nhw drwydded cludo gwastraff a gofyn am nodyn trosglwyddo gwastraff. Os caiff eich gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon, byddai modd i chi gael dirwy, ynghyd â'r unigolyn neu'r cwmni'r gwnaethoch chi ei dalu i gael gwared arno.
"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Dylai'r arian yma fod yn cael ei wario ar wasanaethau allweddol y rheng flaen yn ystod cyfnod pan fo pwysau mawr ar y gyllideb.
“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn y rheini sy'n gyfrifol i gyfrif. Mae nifer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu trwy fynd â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Gallan nhw hyd yn oed gael eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."
Mae gyda'r Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol ar gyfer casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu, o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gyda'r Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.
Mae modd i chi wirio a oes gan berson neu fusnes drwydded cludo gwastraff yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Instagram a TikTok neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 11/06/2025