Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi'r gwaharddiad ar fêps untro wrth i ddau Aelod o'r Cabinet dynnu sylw at yr effaith enfawr y bydd y gwaharddiad yn ei chael ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd lleol.
Mae'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden a'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd yn gefnogwyr brwd o waharddiad Llywodraeth Cymru.
Yn aml, mae fêps untro yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu eu taflu fel sbwriel. Gall hyn gyflwyno sylweddau niweidiol i'n pridd, ein hafonydd a'n nentydd. Mae modd iddyn nhw hefyd achosi tanau, sy'n peryglu diogelwch criwiau casglu gwastraff, diffoddwyr tân a'r cyhoedd ehangach.
Mae POB fêp untro bellach wedi'i wahardd ledled y DU. Gallai unrhyw fusnes sy'n cael ei ddal yn gwerthu'r eitemau yma wynebu dirwy ddiderfyn, dedfryd o garchar a/neu gosbau ychwanegol.
Mae'r dyfeisiau untro yn ddrwg i'r amgylchedd ac maen nhw'n aml yn cael eu marchnata at bobl ifainc ac yn gweithredu fel porth i sylweddau eraill - sef y rheswm cyferbyniol pam y cawson nhw eu cyflwyno yn y lle cyntaf.
Meddai'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd:
"Mae'r gwaharddiad ar fêps untro yn un cam tuag at annog pobl ifainc i beidio â defnyddio fêps. Diolch i'w lliwiau llachar a'u blasau, maen nhw'n aml yn cael eu marchnata at bobl ifainc, ac rydyn ni'n llwyr gefnogi'r cyfyngiadau llymach ar atyniad, blas a chost i wneud fepio yn llai deniadol i'r genhedlaeth iau. Yn aml, roedd y cynhyrchion untro yn haws i'w cuddio rhag rhieni gan nad oedd angen eu gwefru – ond bydd y gwaharddiad yma bellach yn fesur arall o atal unrhyw berson ifanc sy'n ystyried dechrau'r arfer peryglus yma.
"Serch hynny, rydw i'n sylweddoli y gall fêps fod yn adnodd effeithiol i helpu ysmygwyr tybaco presennol i roi'r gorau iddi, ond mae'n wirioneddol hanfodol nad ydyn ni'n gwneud hyn yn 'ffasiynol' i'n pobl ifainc ac yn achosi problem arall i genedlaethau'r dyfodol."
Mae'r Cynghorydd Ann Crimmings, sy'n angerddol am yr amgylchedd ac sydd i'w gweld yn aml yn casglu sbwriel mewn mannau prydferth allweddol yng Nghwm Cynon ac o amgylch ei chymuned leol, yn gobeithio y bydd y gwaharddiad nawr yn helpu i leihau'r sbwriel yn yr ardal.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Bydd y gwaharddiad ar fêps untro nawr yn helpu i gael gwared ar filiynau o blastigion untro o'r amgylchedd. Rydw i'n angerddol am ein cymuned ac am fy ardal leol. Rydw i wedi gweld â'm llygaid fy hun y sbwriel y mae fêps untro yn ei achosi – mae'n bendant yn broblem fawr yn yr ardal. Rydw i'n aml yn dod o hyd i'r bocs, yna'r fêps plastig ychydig lathenni i fyny'r ffordd. Mae'r sbwriel yma'n hyll ac mae'n wenwynig a phan gânt eu taflu'n ddifeddwl, gall y gwenwynau fynd i mewn i afonydd a phridd.
"Hoffen ni atgoffa trigolion i gael gwared ar fêps yn ddiogel, naill ai mewn siop fêps neu Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref – sydd â biniau arbennig i'w hailgylchu'n ddiogel. Does dim modd cael gwared arnyn nhw gyda gwastraff cyffredinol, ac yn anffodus maen nhw wedi achosi nifer o danau mewn cerbydau gwastraff ledled y DU lle mae pobl wedi defnyddio eu biniau gwastraff cyffredinol."
Bydd gan ysmygwyr ystod lawn o opsiynau effeithiol a fforddiadwy o hyd i'w helpu nhw i roi'r gorau i dybaco. Gallai newid i ddyfais y mae modd ei hail-lenwi hefyd helpu pobl i arbed arian o fewn wythnosau.
Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.llyw.cymru/gwaharddiad-ar-feps-untro
Nodiadau ar gyfer y Golygydd:
Beth yw fêp untro:
Mae fêp untro (neu fêp tafladwy) yn gynnyrch nad yw wedi’i ddylunio na’i fwriadu i gael ei ailddefnyddio. Fêp ydyw nad oes modd ei ailwefru na'i ail-lenwi mewn unrhyw ffordd. Ar ôl i'r cynnyrch gael ei ddefnyddio, bydd yn cael ei waredu.
Dyfeisiau nad oes hawl eu gwerthu na'u cyflenwi
Dyma rai enghreifftiau o fodelau cyffredin nad ydyn nhw'n cael eu hystyried fel rhai y mae modd eu hailddefnyddio:
- Dyfeisiau ffon sengl sydd â'r darn ceg, y tanc a'r batri yn sownd yn ei gilydd. Does dim modd mynd at yr hylif na'r coil. Hyd yn oed os oes gan y ddyfais borth USB, sy'n awgrymu bod modd ailwefru'r batri, bydd yn dal yn anghyfreithlon ei gwerthu neu ei gyflenwi.
- Dyfeisiau sy'n eich galluogi i ail-lenwi'r tanc a gwefru'r batri, ond lle mae'r coil wedi'i osod o fewn y ddyfais ac nad oes modd ei amnewid. Does dim modd ailddefnyddio’r math yma o ddyfais achos unwaith y bydd y coil wedi llosgi allan, does dim modd gosod un arall yn ei le.
- Dyfeisiau sy’n ymddangos fel petai modd eu hailddefnyddio ond lle nad oes modd i’r defnyddiwr brynu’r e-hylif ail-lenwi, podiau wedi’u llenwi ymlaen llaw neu goil amnewid (yn eich siop chi neu unrhyw le).
Wedi ei bostio ar 09/06/2025