Skip to main content

Ailgylchwch Wastraff Gwyrdd y Gwanwyn yma

Bydd casgliadau ailgylchu gwastraff gwyrdd yn digwydd yn wythnosol o ddydd Llun 17 Mawrth.

Cofiwch, mae angen i chi gofrestru AM DDIM i ddefnyddio'r gwasanaeth yma.

A ninnau wedi profi gaeaf oer a gwlyb, efallai y byddwch chi wedi manteisio ar y tywydd braf rydyn ni wedi'i gael yn ddiweddar ac wedi mentro yn ôl i'r ardd i roi ychydig o sylw iddi. Ond beth fyddwch chi'n ei wneud â thoriadau'r perthi, toriadau'r lawnt a'r darnau o blanhigion?

Mae gyda ni newyddion da i drigolion! Unwaith eto, bydd y garfan Gofal y Strydoedd yn dechrau casglu eu holl wastraff gwyrdd o ymyl y ffordd yn wythnosol. Bydd hyn yn rhan o'i gasgliad ailgylchu wythnosol yr haf, o ddydd Llun 17 Mawrth ymlaen.

Fydd DIM angen i chi archebu lle ar gyfer y gwasanaeth yma, bydd yr holl drigolion sydd wedi cofrestru yn cael casgliad gwastraff gwyrdd o ymyl y ffordd yn awtomatig o'r dyddiad yma.

Mae modd i chi ailgylchu'r holl wastraff o'ch gerddi, gan gynnwys toriadau, llwyni, blodau a brigau. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi'r gwastraff gwyrdd yn y sachau gwyrdd, aml-ddefnydd a'u gadael nhw wrth ochr y ffordd ar eich diwrnod casglu arferol.

Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, mae amser gyda chi o hyd! Mae modd i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth AM DDIM yn gyflym ac yn ddidrafferth ar-lein trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd. Os does dim modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, mae modd i chi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwch chi wedyn yn cael DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'ch gwastraff gwyrdd.

Mae sachau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un. Mae'r tâl yma ar gyfer cost y sach yn unig. Mae pob sach yn cyfateb o ran maint i ddau a hanner o fagiau ailgylchu clir.

Peidiwch â rhoi pridd yn eich gwastraff gwyrdd gan nad oes modd i ni ei ailgylchu yn rhan o'n cynllun casglu gwastraff gwyrdd o ymyl y ffordd ar hyn o bryd.

Bydd modd defnyddio'r sachau ar gyfer gwastraff gwyrdd megis glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas a gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. Fyddwn ni DDIM yn casglu rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif/gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a chathod. PEIDIWCH â gorlenwi'r sachau.

Mae modd mynd â gwastraff gwyrdd/o'r ardd i un o'n nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Bydd rhaid, yn hytrach, ei arllwys yn rhydd i mewn i'r cynhwysydd sydd ar gael. Mae pob Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn dal i weithredu o dan oriau agor y gaeaf, sef rhwng 8.30am a 4.30pm. Bydd yr oriau agor yn newid ddydd Llun 31 Mawrth, sef rhwng 8.30am a 6.30pm.

Dyma'ch atgoffa i labelu'ch sachau'n glir gan nodi rhif/enw eich eiddo. Mae pob sach wedi'i chofrestru i eiddo unigol a byddwn ni ond yn casglu nifer y sachau sydd wedi'u cofrestru i'r eiddo. Bydd carfanau yn gwneud eu gorau glas i ddychwelyd y sachau i'r eiddo mor ddiogel â phosibl.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Hoffwn i ddiolch i drigolion am ymuno â'r cynllun ac ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn Newid yn yr Hinsawdd. Mae'r newidiadau a gafodd eu gwneud i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd dros y blynyddoedd diwethaf yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor ac yn dod â ni'n nes at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70%

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk, ffonio 01443 425001 neu ddilyn cyfrif Facebook/Twitter y Cyngor.

Wedi ei bostio ar 13/03/2025