Skip to main content

Gwybodaeth am Wasanaethau'r Cyngor dros Benwythnos Gŵyl y Banc

bank-holiday-WELSH

O ganlyniad i Ŵyl y Banc ddechrau mis Mai, bydd y Cyngor - gan gynnwys ei ganolfan gyswllt i gwsmeriaid - AR GAU ddydd Llun, 5 Mai 2025 - a bydd yn ailagor ddydd Mawrth, 6 Mai 2025. 

Bydd HOLL brif wasanaethau'r Cyngor ar gau, ar wahân i’r gwasanaeth argyfyngau y tu allan i oriau arferol a nifer cyfyngedig o wasanaethau hanfodol.

Mae modd dod o hyd i wybodaeth fwy manwl mewn perthynas â gwasanaethau ar y tudalennau yma.

Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau ar dudalen wybodaeth Gŵyl y Banc, bwriwch olwg ar y tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'i horiau agor dros Ŵyl y Banc ddechrau mis Mai. 

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma - ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan 9am ddydd Mawrth, 6 Mai 2025.

Wedi ei bostio ar 02/05/2025