Bydd y Cyngor yn ymgymryd â gwaith Ffyrdd Cydnerth pwysig ar ran o'r B4278 Heol Gilfach, Tonyrefail, o'r wythnos nesaf, i liniaru'r perygl o lifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.
Bydd y buddsoddiad, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cyflawni cyfres o welliannau draenio priffyrdd. Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 2 Mehefin a bydd angen cau lôn a gosod goleuadau traffig dros dro.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar ran orllewinol Heol Gilfach, ar y rhan o'r ffordd sydd yn gyffredinol rhwng cylchfan yr A4093 a Mynwent Trane.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod pibell gludo newydd dros tua 200 metr o'r ffordd gerbydau, ynghyd â 8 rhigol newydd sydd â gorchuddion rhigol capasiti mawr.
Bydd cefnfur newydd hefyd yn cael ei osod i gludo dŵr glaw i gwrs dŵr cyfagos, wedi'i leoli i'r dwyrain o ystâd dai Nant-Y-Fron.
Yn ogystal â'r goleuadau traffig dros dro, bydd angen cau rhannau penodol o'r llwybr troed – ond bydd llwybr dargyfeirio addas ar gael i gerddwyr lle bo modd. Bydd mynediad i eiddo yn parhau.
Bydd Carfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf yn cyflawni'r gwaith, ac mae disgwyl iddo bara tua 10 wythnos.
Mae'r gwaith yma'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru – ac mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth £1.5 miliwn gan y Gronfa i’w ddefnyddio yn rhan o 10 cynllun pellach yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (2025/26).
Mae hyn yn ychwanegol at y £4.52 miliwn sydd wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn 2025/26 – yn rhan o’i rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd ar ddod yn Heol Gilfach, a fydd yn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn y lleoliad hanfodol yma o'r rhwydwaith ffyrdd.
Wedi ei bostio ar 29/05/2025