O ganlyniad i Ŵyl Banc y Gwanwyn, bydd y Cyngor - gan gynnwys ei ganolfan gyswllt i gwsmeriaid - AR GAU ddydd Llun, 26 Mai 2025. Bydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth, 27 Mai.
Bydd HOLL brif wasanaethau'r Cyngor ar gau, ar wahân i'r gwasanaeth argyfyngau y tu allan i oriau arferol a nifer cyfyngedig o wasanaethau hanfodol.
Mae modd dod o hyd i wybodaeth fwy manwl mewn perthynas â gwasanaethau ar y tudalennau yma.
Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau ar dudalen wybodaeth Gŵyl y Banc, bwriwch olwg ar y tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'i horiau agor dros Ŵyl y Banc y Gwanwyn.
Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma - ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan 9am ddydd Mawrth, 27 Mai 2025.
Wedi ei bostio ar 23/05/2025