Skip to main content

Gwybodaeth o ran amserlen dymchwel adeilad ym Mhontypridd

Pontypridd police station - Copy

Mae'r Cyngor yn dymuno rhannu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r amserlen ar gyfer y gwaith dymchwel fydd yn cael ei gynnal ar safle maes parcio Heol Berw a Gorsaf Heddlu Pontypridd yn y dyfodol, a hynny'n dilyn sawl ymholiad.

Cafodd hysbysiadau safle eu cyhoeddi'n ddiweddar, mae'r rhain yn nodi mai 12 Mehefin yw'r dyddiad cychwyn arfaethedig ar gyfer y gwaith dymchwel. Hoffen ni bwysleisio mai amcan yn unig o'r dyddiad dechrau cynharaf posibl yw hyn, ac felly mae'n bosibl nad yw'r gwaith wedi'i drefnu i ddechrau ar y dyddiad yma.

Ar hyn o bryd, does dim dyddiad cychwyn wedi'i gadarnhau ar gyfer y gwaith.

Fel sy'n digwydd gyda phob prosiect tebyg, caiff hysbysiadau safle eu cyhoeddi yn rhan o'r broses briodol ac mae'r cam yma'n golygu bod modd cychwyn y gwaith paratoi, ceisio caniatâd a sicrhau bod holl drefniadau'r prosiect ar waith.

Mae'r Cyngor wedi gofyn bod carfan y prosiect a'r ymgynghorwyr datblygu yn diweddaru'r hysbysiadau safle er mwyn sicrhau bod hyn yn glir.

Bydd adroddiad cynnydd pellach mewn perthynas â cham nesaf y prosiect, gan gynnwys dyddiad cychwyn ar gyfer y gwaith dymchwel, yn cael ei rannu â thrigolion a busnesau maes o law.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 27/04/2026