Skip to main content

Gwaith cynnal a chadw sianeli draenio i ddechrau ar safle Tomen Penrhiwceiber

Penrhiwceiber tip 2 - Copy

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd gwaith arferol yn cael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf ar safle hen domen lo Penrhiwceiber, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru.

Mae ardal y gwaith wedi'i lleoli i gyfeiriad cyffredinol y de a'r de-orllewin o'r B4275  Coedlan Pentwyn, y darn o ffordd rhwng Penrhiwceiber a Tyntetown/Ynys-boeth.

Bydd y cynllun yn cynnwys clirio llystyfiant, a bydd yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 3 Awst – ac yn para hyd at chwe wythnos.

Bydd rhan o'r gwaith, sydd i'w gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT, yn canolbwyntio ar sianeli draenio a chwlferi, er mwyn lleihau perygl rhwystrau yn rhwydwaith draenio'r safle.

Bydd elfen arall o'r cynllun yn canolbwyntio ar glirio lleoliadau pwysig er mwyn sicrhau bydd modd arolygu tomenni glo a'u cynnal a chadw'n haws yn y dyfodol.

Nodwch fod ecoleg wedi bod yn ystyriaeth bwysig o ran dyluniad y cynllun, gyda mesurau rheoli cynefinoedd yn gwella bioamrywiaeth trwy gynnal coridorau cynefinoedd agored ledled y safle.

Does dim disgwyl i'r cynllun darfu llawer, ond mae'n bosibl y bydd rhywfaint o sŵn a chynnydd bach yn nifer y cerbydau adeiladu yn yr ardal (8am-5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

Mae'r cynllun wedi derbyn cyllid trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru yn 2026/27. Mae'r Cyngor wedi sicrhau £13.7 miliwn trwy'r grant yma i barhau ag arolygiadau, mesurau cynnal a chadw a gwaith ledled safleoedd hen domenni glo yn Rhondda Cynon Taf eleni.

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT

Wedi ei bostio ar 05/08/2026