Mae dyn sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ar fin gwireddu breuddwyd oes yr haf yma wrth iddo fynd ar y llwyfan ochr yn ochr â rhai o'i arwyr cerddorol ym Mharti Haf y 90au Rhondda Cynon Taf, sydd wedi gwerthu allan!
Bydd Mark Loverush, sy'n perfformio o dan yr enw Rocco Lino, yn perfformio ym Mharti Haf y 90au RhCT gyda set DJ drydanol yn llawn anthemau cofiadwy. Dyma fydd ei dro cyntaf yn perfformio yn RhCT!
Mae Mark bellach yn byw yn Aberpennar, ond mae ei daith gerddorol wedi mynd ag ef ar draws y byd, o Lundain i Las Vegas a Hollywood. Ers iddo symud i Gymru gyda'i bartner Lee, mae wedi parhau i adeiladu ei yrfa ym myd cerddoriaeth ac adloniant, gan ymddangos mewn cyfresi teledu mawr gan gynnwys Bridgerton a Peaky Blinders.
Yn fwyaf diweddar, mae Mark wedi bod yn gweithio'n agos gydag eicon cerddoriaeth ddawns y 90au ac un o'n perfformwyr ym Mharti Haf y 90au, Whigfield, gan ryddhau ail-waith o'i thrac 'SUGA', a lansiwyd ddechrau mis Ebrill.
Meddai Mark: “Tyfais i fyny yn gwrando ar Whigfield a llawer o’r artistiaid sy'n perfformio yn yr achlysur yma, felly mae’n anhygoel fy mod i nawr yn rhannu’r llwyfan gyda nhw yn fy ardal leol. Mae wir yn freuddwyd wedi'i wireddu.”
Gan weithio o dan gyfarwyddyd creadigol Luv Foundation UK, mae Mark hefyd wedi cydweithio ag amrywiaeth o artistiaid a grwpiau adnabyddus, gan gynnwys y perfformwyr o'r 90au Cappella, Shanie Campbell (Alex Party), Berri, Mary Kiani (The Time Frequency) a Colette Van Sertima, gan ddod â naws fodern i draciau dawns mawr y 90au!
Bydd Parti Haf y 90au RhCT, a werthodd yr holl docynnau mewn dim ond 10 diwrnod, yn croesawu 6,000 o bobl i Barc Coffa Ynysangharad a dyma fydd un o achlysuron mwyaf y flwyddyn!
Wrth siarad am yr achlysur sydd ar ddod, ychwanegodd Mark: “Mae achlysuron fel hyn mor bwysig i Rondda Cynon Taf. Maen nhw'n dod â'r gymuned at ei gilydd, yn creu awyrgylch anhygoel, ac yn rhoi cyfle i bobl ail-fyw rhai o'u hatgofion gorau.”
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: "Mae Parti Haf y 90au RhCT yn ychwanegiad gwych at ein rhaglen o achlysuron yr haf, ac mae'n arbennig o braf gweld talent lleol fel Mark Loverush yn rhannu'r llwyfan gyda rhai o artistiaid mwyaf eiconig y degawd.
"Mae taith Mark o fod yn frwdfrydig am gerddoriaeth i fod ar y llwyfan ochr yn ochr â pherfformwyr y bu’n gwrando arnyn nhw wrth iddo dyfu i fyny yn stori wych, ac rydyn ni wrth ein bodd bod modd i'r achlysur yma, sydd wedi gwerthu allan, ddarparu llwyfan i berfformwyr lleol yn ogystal â dod ag adloniant o’r radd flaenaf i Bontypridd!
"Gyda miloedd o bobl wedi prynu tocynnau ar gyfer yr achlysur, bydd hwn yn ddathliad gwych o gerddoriaeth, hiraeth ac ysbryd cymunedol."
Bydd yr achlysur yn cynnwys perfformwyr eiconig, gan gynnwys enwau mawr y 90au fel East 17, Kenny Thomas, Heather Small a Jon a Jo o S Club, ochr yn ochr â’r talent lleol CADOG a 90’s Rewind. Mae'r achlysur yma'n sicr o fod yn ddiwrnod llawn hiraeth, cerddoriaeth a dawnsio!
Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol a dilynwch @besymlaenrhct am y newyddion diweddaraf am achlysuron ledled RhCT.
Wedi ei bostio ar 05/08/2026