Mae siop yng Nghwm Rhondda wedi'i gorfodi i GAU ar ôl iddi gael Gorchymyn Cau gan Adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am werthu cynhyrchion fêps a thybaco yn anghyfreithlon, gan gynnwys honiadau bod gweithwyr wedi gwerthu cynhyrchion i blant.
Mae'r achos diweddaraf yma, sy'n nodi'r trydydd siop i gau mewn ychydig dros fis, yn tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor, drwy raglen Trawsnewid RhCT, i sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn parhau i fod yn rhywle diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Mae'n anfon neges glir bod y Cyngor yn cymryd camau cadarn ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddwyn y rhai sy'n torri'r gyfraith i gyfrif.
Daeth Vape Zone, 29 Stryd Fawr, Glynrhedynog, CF34 4RH, sy'n eiddo iHakkar Marewani, yn destun camau gorfodi parhaus ar ôl i swyddogion nodi patrwm o ymddygiad troseddol yn ymwneud â gwerthu sigaréts, tybaco rholio â llaw a fêps anghyfreithlon.
Roedd staff Vape Zone, a oedd yn cael ei marchnata fel 'siop losin' er mwyn osgoi amheuaeth ynghylch y niferoedd uchel o blant a oedd yn mynd i mewn i'r siop, yn cael eu hamau o ddenu plant i brynu sigaréts, tybaco a fêps.
Ar yr olwg gyntaf, roedd y siop yn gwerthu diodydd ysgafn, losin, creision, rhai cynhyrchion bwyd ar wasgar a fêps, heb unrhyw sigaréts na chynhyrchion tybaco yn cael eu cadw/eu cynnig i'w gwerthu ar lawr y siop. Dyw'r silffoedd prin wedi'u stocio, gyda chynhyrchion wedi'u gosod ar silffoedd bas. Roedd ffenestri'r siop wedi'u cuddio gan orchuddion mawr. Credai'r garfan Safonau Masnach mai diben hyn i gyd oedd cuddio gwir natur y busnes ac atal pobl sy'n mynd heibio rhag weld gwerthiannau anghyfreithlon.
Canfu'r swyddogion fod tybaco a fêps anghyfreithlon yn cael eu gwerthu i'r cyhoedd dro ar ôl tro, gyda chwynion hefyd yn honni eu bod nhw’n cael eu gwerthu i blant dan oed. Daeth y swyddogion i’r casgliad bod cynhyrchion yn aml yn cael eu storio mewn cuddfannau yn y safle a dim ond yn cael eu datgelu pan fyddai rhywun yn gofyn amdanyn nhw.
Pan ymwelodd swyddogion yr adran Safonau Masnach â'r busnes am y tro cyntaf, cafodd nifer o fêps a phyrsiau nicotin nad oedden nhw'n cydymffurfio â’r safonau gofynnol eu hatal rhag cael eu gwerthu. Nododd swyddogion hefyd fod y perchennog yn torri rheolau olrhain bwyd ac felly fe wnaethon nhw roi cyngor i'r busnes.
Wrth i'r ymchwiliad i'r siop barhau, derbyniodd swyddogion naw cwyn yn ymwneud â'r safle, gan gynnwys pedwar adroddiad yn honni bod gweithwyr wedi gwerthu cynhyrchion i blant dan oed.
Er gwaethaf rhybuddion, cyngor, deunyddiau hyfforddi, ymweliadau cydymffurfio a chamau gorfodi gan y garfan dro ar ôl tro, parhaodd y gweithgarwch anghyfreithlon.
Cynhaliwyd cyfanswm o DDEG pryniant prawf positif yn ystod yr ymchwiliad, gyda sigaréts anghyfreithlon yn cael eu cyflenwi ar bob achlysur. Methodd y cynhyrchion â chydymffurfio â Deddf Nodau Masnach 1994 a Rheoliadau Pecynnu Safonol Cynhyrchion Tybaco 2015.
Hefyd, darparodd swyddogion Safonau Masnach gofrestr gwrthodiadau, deunyddiau hyfforddi staff, canllawiau ar werthiannau â chyfyngiadau oedran a chyngor ynghylch cynhyrchion fêps cyfreithlon. Cafodd llythyr rhoi’r gorau i’r busnes ei gyhoeddi a chysylltwyd â’r landlord ar ddau achlysur gwahanol ynghylch y troseddu parhaus.
Serch hynny, parhaodd cwynion ac adroddiadau cudd-wybodaeth i ddod i law drwy gydol yr ymchwiliad.
Rhoddwyd y Gorchymyn Cau yn Llys Ynadon Merthyr Tudful o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn dilyn ymchwiliad helaeth o'r safle.
Ar 28 Gorffennaf 2026, mynychodd swyddogion Safonau Masnach a Heddlu De Cymru'r safle i roi Hysbysiad Cau ar waith.
Yn ystod y broses honno, daeth swyddogion o hyd i lawer iawn o gynhyrchion tybaco anghyfreithlon wedi'u cuddio o fewn yr eiddo gyda gwerth stryd amcangyfrifedig o dros £4,600 o gynhyrchion cyfreithlon, gan gynnwys:
- 189 pecyn o sigaréts
- 40 pwrs o dybaco rholio â llaw
Methodd yr holl gynhyrchion â chydymffurfio â Deddf Nodau Masnach 1994 a Rheoliadau Pecynnu Safonol Cynhyrchion Tybaco 2015.
Mae cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon yn peri risgiau sylweddol i ddefnyddwyr oherwydd dydyn nhw ddim yn destun i'r un dulliau rheoleiddio llym â chynhyrchion cyfreithlon. Mae modd i gynhyrchion a gaiff eu cynhyrchu a'u gwerthu y tu allan i gadwyni cyflenwi cyfreithiol gynnwys cynhwysion neu halogion anhysbys ac efallai na fyddan nhw'n bodloni safonau diogelwch y DU. Nid oes gan ddefnyddwyr unrhyw sicrwydd am gynnwys y cynhyrchion yma na'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â'u defnyddio.
Mae modd i gynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon rhad hefyd danseilio mentrau iechyd cyhoeddus drwy wneud ysmygu a fêpio yn fwy fforddiadwy a hygyrch, yn enwedig i bobl ifainc.
Meddai Rhian Hope, Cyfarwyddwr Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"Datgelodd yr ymchwiliad yma ymddygiad troseddol parhaus a bwriadol yn cynnwys gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon i aelodau'r cyhoedd, ochr yn ochr â honiadau o werthu i blant dan oed."
"Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw bod y cynhyrchion yma'n cael eu cuddio'n rheolaidd er mwyn osgoi cael eu canfod gan ein swyddogion, gan ddangos ymwybyddiaeth glir bod y gweithgarwch yn anghyfreithlon."
"Er gwaethaf cyngor, rhybuddion, hyfforddiant, ymweliadau cydymffurfio a chamau gorfodi dro ar ôl tro, parhaodd y busnes i fasnachu'n anghyfreithlon. Dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd batrwm parhaus o droseddu ac anwybyddu'r gyfraith, awdurdodau gorfodi a'r gymuned leol yn llwyr."
"Nid oes gan ddefnyddwyr sy'n prynu cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon unrhyw ffordd o wybod yn union beth maen nhw'n ei brynu. Nid yw'r cynhyrchion yma'n ddarostyngedig i'r un rheoliadau diogelwch â nwyddau cyfreithlon ac mae modd iddyn nhw gynnwys sylweddau anhysbys sy'n peri risgiau difrifol i iechyd.”
"Mae'r adroddiadau am werthiannau i blant dan oed yn achosi cryn dipyn o bryder. Mae modd i gynhyrchion anghyfreithlon rhad wneud ysmygu a fêpio yn fwy hygyrch i blant a phobl ifainc, gan eu hamlygu i risgiau iechyd sylweddol."
"Hoffwn ddiolch i'n swyddogion Safonau Masnach, Heddlu De Cymru ac asiantaethau partner am eu gwaith parhaus drwy gydol yr ymchwiliad yma. Byddwn ni'n parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn busnesau sy'n ymwneud â gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps yn anghyfreithlon a fyddwn ni ddim yn oedi cyn defnyddio'r holl bwerau sydd gael i amddiffyn ein cymunedau."
Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Ymgyrch CeCe, i amharu ar gyflenwad cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon ac amddiffyn cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae'r garfan Safonau Masnach ymroddedig yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio ystod eang o dechnegau gorfodi i nodi busnesau sy'n cyflenwi cynhyrchion anghyfreithlon, gan gydweithio'n agos â phartneriaid ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Os oes gan y cyhoedd unrhyw wybodaeth ynghylch pobl sydd, yn eu barn nhw, yn ymwneud o bosib â gweithgarwch masnachu anghyfreithlon, mae modd iddyn nhw roi gwybod am eu pryder i'r garfan Safonau Masnach yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r Ffurflen Ar-lein ynghylch Gweithgarwch Anghyfreithlon.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach
Wedi ei bostio ar 06/08/2026