Dyma roi gwybod bod y cynllun parhaus i osod goleuadau stryd newydd ar yr A473 ger ardal Tonysguboriau bellach wedi'i gwblhau'n gynt na'r disgwyl.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros y tri phenwythnos diwethaf – gan ganolbwyntio ar y rhan rhwng cylchfan Heol Glan-elái a chyffordd yr A4222 Heol y Bont-faen (ger Leekes).
O ganlyniad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud, fydd dim angen cau'r lonydd y penwythnos yma (15-16 Awst).
Yn rhan o waith y cynllun sydd wedi'i gwblhau, cafodd goleuadau stryd newydd eu gosod ar hyd y rhan allweddol yma o ffordd. Mae modd darllen rhagor o fanylion am y gwaith yn yr eitem newyddion flaenorol.
Cafodd y cynllun ei ariannu trwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Pheirianneg y Cyngor ar gyfer 2026/27, a chafodd y gwaith ei gynnal gan gontractwyr y Cyngor, Centregreat Ltd ac Yunux Traffic.
Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad yn ystod cyfnodau'r gwaith.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 10/08/2026