Dylai defnyddwyr ffordd fod yn effro i waith pwysig i osod goleuadau stryd newydd sydd ei angen ar yr A473 yn Nhonysguboriau - ar y rhan o'r ffordd rhwng cylchfan Heol Glan-elái a chyffordd yr A4222 Heol y Bont-faen (ger Leekes).
Bydd raid i rannau ar wahân o'r ffordd gau er mwyn cyflawni'r gwaith. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar benwythnosau olynol ac yn ystod gwyliau'r haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl - bydd y cam cyntaf yn cael ei gynnal yn ystod penwythnos dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf, a dydd Sul, 26 Gorffennaf (8.30am - 2.30pm).
Bydd y cynllun hanfodol yn cynnwys gosod colofnau a llusernau newydd ar gyfer y goleuadau stryd ar hyd y rhan allweddol yma o'r ffordd, am eu bod nhw wedi cyrraedd diwedd eu hoes. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu yn rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Pheirianneg barhaus y Cyngor ar gyfer 2026/27.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwr er mwyn cynnal y gwaith dros yr wythnosau sydd i ddod, ac wedi penodi Yunex Traffic er mwyn cyflawni gwaith adleoli polyn signalau traffig, dros yr wythnosau sydd i ddod.
Trefniadau cau rhannau o ffyrdd ar benwythnosau dros yr wythnosau sydd i ddod
Bydd y trefniadau cau canlynol ar waith, gan ganolbwyntio ar un rhan o'r goleuadau stryd ar y tro. Diben hyn yw osgoi cau'r ffyrdd yn gyfan gwbl a pheidio â tharfu ar bob llwybr lleol. Bydd y trefniadau cau ar waith rhwng 8.30am a 2.30pm ar bob un o'r dyddiadau isod:
- Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf, a dydd Sul, 26 Gorffennaf - bydd y lôn tua'r gorllewin ar yr A473 yn cau rhwng Cylchfan Glan-elái a Heol y Bont-faen (fel caiff ei nodi ar y map canlynol). Bydd hefyd raid cau'r lôn ar gyfer troi i'r chwith o gyffordd Heol y Bont-faen i’r A473. Llwybr amgen ar gyfer defnyddwyr y ffordd – ewch ar hyd yr A473 tua chyfeiriad y dwyrain, Cylchfan Ffordd Osgoi Tonysguboriau, yr A4119, Heol Talbot, Heol Glan-elái a Chylchfan Glan-elái.
- Dydd Sadwrn, 1 Awst, a dydd Sul, 2 Awst - bydd y lôn tua'r dwyrain ar yr A473 yn cau rhwng Cylchfan Glan-elái a Chylchfan Parc Manwerthu Bro Morgannwg (fel caiff ei nodi ar y map canlynol). Bydd hefyd raid cau'r lôn ar gyfer troi i'r dde o gyffordd Heol y Bont-faen i’r A473. Llwybr amgen – ewch ar hyd yr A473 tua chyfeiriad y gorllewin, Cylchfan Glan-elái, Heol Glan-elái, Heol Talbot, yr A4119, Cylchfan Ffordd Osgoi Tonysguboriau a'r A473.
- Dydd Sadwrn, 8 Awst - cau'r lôn ar gyfer troi i'r dde o Heol y Bont-faen i’r A473 (fel caiff ei nodi ar y map canlynol). Llwybr amgen - ewch ar hyd yr A473 tua'r gorllewin, Cylchfan Glan-elái, a'r A473 tua'r dwyrain. Ar ddydd Sul, 9 Awst, bydd y rhan o’r ffordd sydd ar gau yn newid i'r troad i'r chwith o Heol y Bont-faen i’r A473 (fel caiff ei nodi ar y map canlynol). Llwybr amgen – ewch ar hyd yr A473 tua chyfeiriad y dwyrain, Cylchfan Parc Manwerthu Bro Morgannwg a'r A473 tua chyfeiriad y gorllewin.
- Dydd Sadwrn, 15 Awst, a dydd Sul, 16 Awst - bydd y rhan o’r ffordd a oedd ar gau ar 25 - 26 Gorffennaf yn cau unwaith yn rhagor, ar yr A473 rhwng Cylchfan Glan-elái a Heol y Bont-faen. Bwriwch olwg ar y manylion uchod.
Nodwch y bydd mynediad ar gael ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys, ac er mwyn cyrraedd eiddo, ond nid ar gyfer cerddwyr, drwy gydol yr holl gyfnodau pan fydd y rhannau o ffyrdd uchod ar gau. Diolch i drigolion, defnyddwyr y ffyrdd, a chymunedau lleol am eu hamynedd, a'u cydweithrediad wrth i'r gwaith hanfodol yma gael ei gwblhau dros yr haf.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 22/07/2026