Skip to main content

TAIR ysgol wedi'u coroni'n bencampwyr ailgylchu!

Aeth Bwni’r Pasg i ysgolion buddugol ledled Rhondda Cynon Taf y mis yma. Ie, mae’n fis Awst ond ymweliad arbennig oedd yr un yma. Aeth Bwni’r Pasg i goroni Pencampwyr yr Her Ailgylchu Wyau Pasg.

Cymerodd 53 o ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf ran yn yr her eleni, a gafodd ei chynnal ym mis Ebrill. Cafodd 899 cilogram o ddeunydd pacio wyau Pasg ei gasglu i'w ailgylchu, gan helpu i atal y deunyddiau gwerthfawr rhag cael eu gwastraffu.

Yn rhan o’r gystadleuaeth, roedd rhaid i ysgolion gasglu cymaint o ddeunydd pacio wyau Pasg â phosibl, gyda'r canlyniadau'n cael eu cyfrif yn seiliedig ar y swm a gafodd ei gasglu fesul disgybl er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg.

Ar ôl misoedd o ddidoli’r holl blastig, cardfwrdd a ffoil, rydyn ni wedi dod o hyd i'r enillwyr! Mae tair ysgol haeddiannol iawn wedi mynd y tu hwnt i'r gofyn i ailgylchu holl wastraff wyau Pasg.

Pencampwyr yr her eleni oedd:

  • Ysgol Gynradd Pen-rhys802.56 gram fesul disgybl (gwobr o £300)
  • Ysgol Gynradd Alaw482.75 gram fesul disgybl (gwobr o £100)
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail456.28 gram fesul disgybl (gwobr o £50)

Cafodd tystysgrifau wedi'u fframio a sieciau gwobrau mawr eu cyflwyno i gydnabod eu hymdrechion rhagorol.

Cafodd nifer o'r casgliadau eu hyrwyddo gan Bwyllgorau Eco ysgolion a grwpiau Senedd, gan helpu disgyblion i ddysgu rhagor am gynaliadwyedd, ailgylchu a gofalu am yr amgylchedd.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yn ystod ymweliadau dathlu arbennig ac achlysuron a gafodd eu cynnal gan Garfan Ailgylchu ac Addysg y Cyngor.

Meddai Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Wastraff ac Ailgylchu, y Cynghorydd Ann Crimmings:

"Llongyfarchiadau i bob un o'r 53 ysgol a gymerodd ran yn Her Ailgylchu'r Pasg eleni.

"Roedd y swm a gafodd ei gasglu'n hollol wych ac yn dangos y brwdfrydedd sydd gan ein pobl ifainc dros ddiogelu'r amgylchedd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau."

"Mae ailgylchu'n chwarae rhan hanfodol wrth leihau gwastraff a gwarchod adnoddau gwerthfawr. Trwy gymryd rhan mewn heriau fel yr un yma, mae disgyblion yn dysgu arferion da a fydd o fudd i'w cymunedau ac i genedlaethau'r dyfodol.

"Mae pob bocs wy Pasg, darn o blastig a ffoil sydd wedi'u hailgylchu wedi helpu i gyfrannu at y cyfanswm trawiadol yma. Da iawn i'r holl ddisgyblion, athrawon a theuluoedd a gefnogodd yr her, a llongyfarchiadau arbennig i'n hysgolion buddugol."

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 06/08/2026