Skip to main content

Newidiadau i lwybr bws yn ystod gwaith ar brif bibell ddŵr yn Hirwaun

temporary-bus-arrangements_WELSH

Dyma roi gwybod am drefniadau bws dros dro a fydd ar waith yr wythnos nesaf yn #Hirwaun, a hynny o ganlyniad i waith Dŵr Cymru.

Bydd angen i Dŵr Cymru gau Teras Cynon, fel sydd i'w weld ar y map. Bydd y gwaith hanfodol yma'n cael ei gynnal o ddydd Llun 2 Mawrth tan ddydd Mercher 4 Mawrth.

Mae llwybr amgen i fodurwyr i'w weld ar y map hefyd – bydd ar gael ar hyd y ffordd ddienw rhwng Ffordd Merthyr a'r Dramffordd, Heol Uchel, Stryd Fawr a Heol Aberhonddu.

Yn ôl Dŵr Cymru, fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys nac i gerddwyr. Bydd mynediad ar gael i eiddo.

Yn ystod y cyfnod yma, fydd dim modd i Wasanaeth 8 Stagecoach (Aberdâr – Glyn-nedd) gasglu teithwyr o'r safleoedd bws arferol ar y Stryd Fawr, Y Dramffordd a Theras Cynon wrth deithio'n ôl i Aberdâr. Bydd y gwasanaeth yn newid ei lwybr a theithio ar hyd Heol Aberhonddu, a chynghorir teithwyr i ddefnyddio'r safleoedd bws ar y ffordd yma.

Fel arall, gall teithwyr ddefnyddio'r safleoedd bws ar y Stryd Fawr i ddefnyddio Gwasanaeth 9 Stagecoach (Merthyr Tudful – Aberdâr). Fydd dim effaith ar y gwasanaeth yma a bydd yn defnyddio'i lwybr arferol. Nodwch na fydd y trefniadau yma'n cael effaith ar Wasanaeth 8A, sydd ar gael gyda'r nos.

Bydd arwyddion yn cael eu gosod ym mhob safle bws yn Hirwaun y bydd y trefniadau dros dro yma'n cael effaith arnyn nhw, a hynny cyn y gwaith.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 24/02/2026