Skip to main content

Canolfan newydd i Gyn-filwyr yn cael ei lansio yng Nghanolfan Calon Taf, Pontypridd

Ponty Hub for Veterans - SM ASSETS (465 x 310 px) (1)

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi lansiad Canolfan Pontypridd i Gyn-filwyr, sef cyfres o sesiynau galw heibio wythnosol newydd fydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Calon Taf, Parc Coffa Ynysangharad (CF37 4PE). Bydd yr achlysur lansio yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 27 Chwefror am 11.30am, a bydd y ganolfan ar agor bob dydd Gwener rhwng 11.30am ac 1pm.

Mae'r sesiynau ar agor i gymuned gyfan y Lluoedd Arfog - gan gynnwys cyn-filwyr, personél mewn gwaith, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd - bydd y ganolfan yn amgylchedd diogel a chroesawgar gyda diodydd poeth, bap brecwast, a chyngor a chymorth un-i-un gan ystod o sefydliadau ac elusennau sy’n ymwneud â'r Lluoedd Arfog.

Bydd pob wythnos yn cynnwys gweithgareddau lles gwahanol a chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ac achlysuron coffa yn y parc. Does dim angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y sesiynau ac mae lleoedd parcio gerllaw.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi lansiad canolfan gyfeillgar a chroesawgar lle bydd modd i'n cymunedau Lluoedd Arfog lleol gysylltu â’i gilydd, cael mynediad at gymorth, a chymryd rhan mewn gweithgareddau lles a choffa yn eu hardal leol.

"Bydd ein sefydliadau ac elusennau partner wrth law i gynnig cymorth - boed hyn mewn perthynas â lles, cyflogaeth, tai, iechyd neu os ydych chi ond eisiau paned a sgwrs. Bydd y ganolfan yn darparu diodydd poeth a bap brecwast, ac mae lleoedd parcio gerllaw.

"Os ydych chi'n aelod o'n cymunedau Lluoedd Arfog lleol, galwch heibio."

Mae Canolfan Calon Taf yn ganolfan sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: Hafan | Calon Taf

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i fwy na 7,500 o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, gan ailddatgan ei ymrwymiad yn 2018 – symbol o barch cyffredin rhwng cymunedau bywyd sifil a'r Lluoedd Arfog. Yn 2017, derbyniodd y Cyngor Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am ein cefnogaeth barhaus o gymuned y Lluoedd Arfog. Cadwodd y Cyngor y wobr unwaith eto yn 2022 wedi cyflwyno'r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr wrth Gefn.

Mae'r Ganolfan yn ategu Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr presennol y Cyngor, sy'n cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 25/02/2026