Mae modd i drigolion nawr gymryd rhan yn ail gam yr ymgynghoriad blynyddol ar gyllideb y Cyngor. Mae'r cam yma'n canolbwyntio ar strategaeth ddrafft sydd wedi'i chynnig ar gyfer 2026/27. Bydd y dasg ymgynghori yma'n rhoi cyfle i drigolion gymryd rhan ar-lein ac all-lein, a bydd yn cynnwys tri achlysur ymgysylltu wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd lleol.
Ystyriodd y Cabinet y strategaeth gyllideb ddrafft yn ystod ei gyfarfod ddydd Llun, 2 Chwefror. Cafodd y strategaeth ddrafft yma ei llunio yn dilyn setliad terfynol Llywodraeth Leol mwy ffafriol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr. Mae'r strategaeth yn mynd i'r afael â'r bwlch yn y gyllideb gwerth £6.46 miliwn sy'n weddill ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hefyd yn trafod y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr adnoddau ychwanegol sydd ar gael a'r pwysau diweddaraf o ran y gyllideb sylfaenol.
Byddai'r strategaeth yn gosod cyllideb fantoledig ar gyfer y flwyddyn nesaf sy'n ariannu'r holl bwysau o ran cyflogau a phwysau eraill ar gyfer ysgolion, yn ogystal â darparu £1 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynyddu lefelau rhyddhad Ardrethi Annomestig lleol y Cyngor i fusnesau. Mae hefyd yn cynnwys arbedion effeithlonrwydd sylweddol pellach a nodwyd gan swyddogion, cynnydd yng nghyfraddau Treth y Cyngor sydd unwaith eto yn debygol o fod ymhlith yr isaf yng Nghymru a manylion lefelau Ffioedd a Thaliadau. Mae hefyd yn cynnig defnyddio cronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi i fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb gwerth £911,000 sy'n weddill.
Mae manylion pellach am yr elfennau allweddol yma o'r strategaeth gyllideb ddrafft wedi'u nodi yn yr eitem newyddion ganlynol, a gyhoeddwyd cyn cyfarfod y Cabinet ddydd Llun.
Aeth y Cabinet ati i gytuno y dylai'r strategaeth ddrafft gael sylw yn rhan o ail gam yr ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor. Mae'r gwaith ymgynghori yma bellach wedi dechrau a bydd modd i drigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma hyd nes iddo gau ddydd Iau, 12 Chwefror.
Gwefan ymgysylltu Dewch i Siarad RhCT fydd prif wefan yr ymgynghoriad. Bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth allweddol am gyd-destun a chefndir y gyllideb, ynghyd ag adnoddau ymgysylltu sy'n rhoi cyfle i bobl gyflwyno adborth - gan gynnwys arolwg ac arolygon barn. Bydd modd bwrw golwg ar fersiwn Hawdd ei Darllen o'r arolwg hefyd.
Bydd swyddogion hefyd yn ymgysylltu â chyfres o grwpiau allweddol yn ystod y cyfnod ymgynghori – mae'r rhain yn cynnwys y Grŵp Cynghori Pobl Hŷn a fforymau ieuenctid lleol.
Yn y cyfamser, bydd achlysuron galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal mewn tri o lyfrgelloedd y Cyngor, gan roi cyfle i drigolion siarad â swyddogion am unrhyw agwedd ar y strategaeth a manteisio ar gymorth i gwblhau'r arolwg. Mae croeso i drigolion fynychu'r achlysuron canlynol, does dim angen cadw lle ac mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd yn ystod yr achlysur:
- Llyfrgell Pontypridd – Dydd Mercher, 4 Chwefror (10am-hanner dydd).
- Llyfrgell Aberpennar – Dydd Gwener, 6 Chwefror (10am-hanner dydd).
- Llyfrgell Treorci – dydd Mawrth, 10 Chwefror (10am-hanner dydd).
Yn ystod yr ymgynghoriad yma, bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r broses ac annog ymgysylltu, tra bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at randdeiliaid allweddol (gan gynnwys Panel y Dinasyddion, Cynghorwyr a staff).
Mae modd i drigolion hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad dros y ffôn drwy ffonio Canolfan Alwadau'r Cyngor (01443 425014), lle byddwn ni'n cynnig apwyntiadau unigol dros y ffôn. Mae modd anfon arolygon papur a gwybodaeth ar gais, a bydd cyfeiriad Rhadbost ar gael er mwyn ymateb i'r ymgynghoriad trwy'r post. Anfonwch y rhain i'r cyfeiriad yma: Rhadbost (RUGK-EZZL-ELBH), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Y Trydydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cynnal dau gam yn rhan o ymgynghoriad ar y gyllideb ac mae'r gwaith yma'n bwysig gan ei fod yn ein helpu ni i ddysgu am feysydd blaenoriaeth ein trigolion. Cymerodd tua 350 o bobl ran yng ngham un yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod yr hydref, gan helpu swyddogion i lunio'r strategaeth ddrafft honno sydd bellach wedi'i chynnig. Mae'r strategaeth ddrafft yn egluro sut y byddai modd i ni bennu cyllideb fantoledig gyfreithiol, yn ogystal ag ariannu holl gostau'r ysgolion, darparu £1 miliwn ychwanegol ar gyfer ADY, cynyddu lefelau Rhyddhad Ardrethi Annomestig y Cyngor ar gyfer busnesau - tra hefyd yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol pellach. Mae hyn oll yng nghyd-destun y pwysau parhaus sydd ar ein gwasanaethau o ganlyniad i gynnydd yn y galw a chostau byw uchel.
“Bydd ail gam yr ymgynghoriad sydd bellach ar y gweill yn rhoi cyfle i ni dderbyn adborth ar y strategaeth ddrafft, er mwyn llywio penderfyniadau terfynol y Cabinet. Mae'r dull profedig a dibynadwy yma'n golygu bod modd i ni gasglu barn trigolion yn ystod dau gam allweddol o'r broses gyffredinol. Mae ein Strategaeth Ymgysylltu sydd newydd ei mabwysiadu yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i roi cyfle i bawb ddweud eu dweud. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnig cymysgedd o ddulliau ymgysylltu ar-lein ac all-lein. Mae modd i drigolion ddweud eu dweud ar wefan Dewch i Siarad, dros y ffôn a thrwy'r post, a thrwy ymweld â thri achlysur cyhoeddus sy'n cael eu cynnal yn ein llyfrgelloedd ym Mhontypridd, Aberpennar a Threorci. Bydd swyddogion hefyd yn cynnal gwaith ymgysylltu ar wahân â phobl hŷn a phobl ifainc, trwy grwpiau lleol.
“Rwy'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb i ddysgu rhagor a dweud eu dweud ar y strategaeth arfaethedig, a hynny cyn y dyddiad cau sef dydd Iau, 12 Chwefror. Bydd y Cabinet yn trafod yr holl adborth sy'n cael ei gyflwyno wrth i ni bennu cyllideb fantoledig gyfreithiol ar gyfer 2026/27 yn ystod yr wythnosau nesaf."
Wedi ei bostio ar 03/02/2026