Ymunodd Cyngor Rhondda Cynon Taf â Banc Bwyd Pontypridd i ddangos gwaith trawsnewid hen Ganolfan Gymdeithasol Glan-yr-afon yn Nhrefforest ar ddiwedd 2025. Daw hyn wedi cwblhau gwaith adnewyddu sylweddol ar y safle, a oedd yn bosibl trwy drefniant Trosglwyddo Ased Cymunedol gyda chymorth gan Garfan Datblygu'r Gymuned RhCT Gyda'n Gilydd y Cyngor.
Cafodd Storm Dennis yn 2020 effaith fawr ar yr adeilad, a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio'n Ganolfan Oriau Dydd gan y Gwasanaethau i Oedolion. Ar y pryd, roedd Banc Bwyd Pontypridd (a oedd yn rhan o Gyngor Ardal Gweinidogaeth Pontypridd yr Eglwys yng Nghymru) yn cael cymorth i ddefnyddio Canolfan Ilan y Cyngor yn Rhydfelen yn lleoliad dros dro – gan fod y galw wedi tyfu'n fwy na'r lle storio a oedd ar gael mewn eglwysi lleol. Er gwaethaf y mesur dros dro yma, roedd angen datrysiad hirdymor ar y grŵp ar unwaith.
Trwy weithio'n agos â swyddogion y Cyngor o Ganolfannau Hamdden, Eiddo'r Cyngor a RhCT Gyda'n Gilydd, symudodd Banc Bwyd Pontypridd i'r adeilad Glan-yr-afon dan 'Denantiaeth wrth Ewyllys' dros dro ym mis Hydref 2021. Cafodd hyn ei gefnogi gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber BEM, ac roedd hyn wedi sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol ar gyfer trigolion lleol.
Ym mis Mehefin 2022, cyflwynodd y grŵp Fynegiant o Ddiddordeb ar gyfer trefniant Trosglwyddo Ased Cymunedol drwy brydles, ac erbyn mis Gorffennaf 2023, daeth Banc Bwyd Pontypridd yn elusen gofrestredig. Wedi i'w achos busnes gael ei gymeradwyo, roedd y Banc Bwyd (sy'n rhan o rwydwaith Trussell ledled y DU) wedi cwblhau prydles 25 mlynedd o hyd ym mis Tachwedd 2024, gan elwa ar gyfnod heb orfod talu rhent am chwe mis er mwyn cynnal gwaith adnewyddu a gwella effeithlonrwydd ynni hanfodol.
Ers hynny, mae'r grŵp wedi llwyddo i sicrhau cyllid gwerth dros £250,000 er mwyn ailfodelu ac adnewyddu hen Ganolfan Glan-yr-afon. Roedd y gwaith adnewyddu yn cynnwys gosod paneli solar, atgyweirio'r to, ailgynllunio ardaloedd mewnol er mwyn sicrhau bod y lle'n cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl, datgomisiynu'r cyflenwad nwy a gosod gwresogyddion trydanol ag amseryddion yn lle'r system wres ganolog nwy.
Mae cwblhau'r gwaith yn nodi diwedd taith 13 mlynedd o hyd o gydnerthedd a phartneriaeth gymunedol. Dechreuodd y Banc Bwyd yn Eglwys Sant Luc yn Rhydfelen yn 2012, ac rhoddwyd 1,255 parsel bwyd yn ei flwyddyn gyntaf. Yn 2025, y ffigwr yma oedd 5,318. Mae gan y lleoliad ar ei newydd wedd Reolwr Banc Bwyd llawn amser, dau aelod o staff rhan-amser, a charfan ymroddedig o 70 gwirfoddolwr - mae hefyd yn bartner gweithredol o Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Rhondda Cynon Taf. Mae modd i gleientiaid gael mynediad at gymorth bwyd, cyngor un-i-un, a chyngor o ran cyfeirio at wasanaethau eraill - gan gynnwys Cydlynwyr Lles Interlink, Cyngor ar Bopeth a Dŵr Cymru.
Mae taith Banc Bwyd Pontypridd yn brawf o bŵer gwaith ar y cyd, gyda chymorth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Tref Pontypridd, Cyngor ar Bopeth, Interlink, archfarchnadoedd lleol, a chyrff ariannu gan gynnwys Trussell, Cronfa Deddf Eglwys Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a'r Loteri Genedlaethol.
Meddai Liz Pearce a Mandy Haydon-Hall ar ran Banc Bwyd Pontypridd: "Rydyn ni eisiau diolch i Garfan RhCT Gyda'n Gilydd ac i'n cyllidwyr am ein helpu ni i adfywio hen adeilad cymunedol. Mae'r gwaith rydyn ni wedi'i gynnal yn golygu bod modd i ni gynnig amgylchedd sy'n fwy croesawgar i'r rheiny yn ein cymuned sydd angen cymorth."
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: "Mae taith Banc Bwyd Pontypridd yn llwyddiant cymunedol go iawn, ac yn brawf o bŵer gwaith ar y cyd.
"Gan weithio ochr yn ochr â Charfan Datblygu'r Gymuned RhCT Gyda'n Gilydd y Cyngor, Cyngor Tref Pontypridd, a sefydliadau lleol, mae'r Banc Bwyd wedi trawsnewid Glan-yr-afon yn lleoliad modern a chroesawgar, lle mae modd i drigolion gael mynediad at gymorth yn gyflym a chydag urddas.
"Mae ei daith o adleoli ar frys yn ystod y pandemig i gartref hirdymor yn dangos y cydnerthedd eithriadol a'r penderfyniad a rennir er mwyn bodloni'r angen lleol.
"Hoffwn i ddiolch i'r gwirfoddolwyr, y staff, a'r partneriaid sydd wedi cydweithio er mwyn gwneud hyn yn bosibl - yn enwedig Liz Pearce, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, a Mandy Haydon-Hall, Rheolwr y Banc Bwyd, am eu hymrwymiad i gefnogi trigolion sy'n agored i niwed."
Mae Banc Bwyd Pontypridd wedi'i leoli yng Nghanolfan Glan-yr-afon, Stryd y Nîl, Trefforest, Pontypridd, CF37 1BW. Oriau Agor:
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am – 1.45pm
- Dydd Sadwrn: 10am – 11.45am
- Dydd Sul: Ar gau.
Hoffech chi roi bwyd i Fanc Bwyd Pontypridd? Dewch â'r bwyd yn ystod yr oriau agor. Fel arall, defnyddiwch y lleoliadau canlynol:
- Sainsbury's, Parc Manwerthu Brown Lennox, Heol Ynysangharad, Pontypridd, CF37 4DA (ger y mannau talu). Ar agor 7am - 10pm (Dydd Llun i ddydd Sadwrn), 10am - 4pm (Dydd Sul).
- Tesco Extra, Glan-bad, Pontypridd, CF37 5SN (ger yr allanfa). Ar agor 6am - 10pm (Dydd Llun i ddydd Sadwrn), 10am - 4pm (Dydd Sul). Nodwch fod y mannau casglu yn Tesco ar gyfer bwydydd sydd wedi'u prynu gan bobl sy'n siopa yn yr archfarchnad yn unig. Dylai unrhyw fwydydd sydd wedi'u prynu mewn siop arall fod wedi'u selio, a'u labelu yn glir eu bod nhw wedi'u prynu mewn siop arall.
Mae modd i chi wirio pa eitemau sydd eu hangen ar y Banc Bwyd drwy ddefnyddio'r ap BanktheFood.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r wefan: Banc Bwyd Pontypridd | Helpu Pobl Leol mewn Argyfwng
Dilynwch y Banc Bwyd ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook | Instagram
Wedi ei bostio ar 03/02/2026