Skip to main content

Dau gam o gynllun atgyweirio wal wedi'u cwblhau yn ardal Tonypandy

Llwynypia Road wall

Mae cyfres o atgyweiriadau pwysig bellach wedi'i chwblhau i'r wal derfyn yn Heol Llwynypia, Tonypandy. Mae'r wal derfyn yn cynnal yr ardd henebion uwchlaw. 

Dechreuodd y gwaith yn gynnar ym mis Rhagfyr 2025 a chafodd ei gwblhau dros ddau gam. Mae'r cynllun cyffredinol bellach wedi'i gwblhau, a hynny'n gynt na'r disgwyl.

Yn ystod cam cyntaf y gwaith cyn y Nadolig, ailadeiladwyd rhan ddeheuol y wal a'i hwyneb blaen. Yn ystod ail gam y gwaith yn y Flwyddyn Newydd, ailadeiladwyd rhan ogleddol y wal a'r grisiau.

Mae gwaith i wella'r canllaw ac i glirio'r llystyfiant wedi'i gynnal hefyd lle roedd angen.

Mae pob llwybr troed wedi ailagor i'r cyhoedd, ac mae trefniadau cilfachau parcio wedi dychwelyd i'w trefniadau arferol.

Cafodd y gwaith yma ei ariannu drwy gyllideb refeniw'r Cyngor, a'i gynnal gan y contractwr penodedig, Hammond ECS Ltd.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod cyfnod gwaith y cynllun lleol yma.

Wedi ei bostio ar 03/02/2026