Mae cynhaliwr yn berson sy’n rhoi gofal a chymorth yn ddi-dâl (ac eithrio Lwfans Cynhalwyr) i berson arall - boed aelod o’r teulu, cyfaill neu gymydog - sydd angen cymorth yn ei fywyd bob dydd oherwydd:
- Henaint
- Salwch tymor hir
- Anabledd
- Salwch iechyd meddwl
- Camddefnyddio sylweddau
Dydy'r term ‘cynhaliwr’ ddim yn cynnwys unrhyw un sy'n:
- Derbyn tâl, naill ai mewn arian parod neu fodd arall, am y gofal maen nhw'n ei ddarparu;
- Gwneud gwaith gwirfoddol ar ran mudiad gwirfoddol
Rydyn ni'n gwerthfawrogi gwaith y cynhalwyr ac yn cydnabod y gallan nhw hefyd fod ag angen cymorth i barhau i wneud eu gwaith gofal. Rydyn ni felly yn darparu gwybodaeth, cyngor, gwasanaeth bwrw bol/estyn cyngor, yn ogystal â chymorth mwy ymarferol ar gyfer y cynhaliwr a’r person mae’n gofalu amdano.
Mae ein Canllaw i Gynhalwyr yn ganllaw cyfeirio cyflym i'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael i gynhalwyr yn lleol ac yn genedlaethol. I gael gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r cymorth sydd ar gael i chi, darllenwch ein canllaw a'n cylchlythyron rheolaidd.
Cyn i ni fynd ati i ddarparu unrhyw wasanaethau, byddwn ni'n asesu anghenion yr unigolion sy'n derbyn gofal ac anghenion y cynhalwyr.
Cynhalwyr a COVID
Yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf gwelwyd galw digynsail ar gynhalwyr, i roi gofal a chymorth parhaus mewn amgylchiadau heriol sy'n newid o ddydd i ddydd. Mae’r ffilm isod yn cyfleu rhai o’r heriau yma, yn dangos y gefnogaeth y maen nhw wedi’i chael trwy gydol y pandemig, ac yn cyfleu eu hanghenion, eu dymuniadau a’u dyheadau wrth symud ymlaen tuag at ein ‘normal newydd’.
Cysylltu â ni
E-bost: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk