Mae'n bosibl y bydd trigolion Llanilltud Faerdref yn sylwi ar y gwaith draenio fydd yn cael ei gynnal ar safle hen lofa'r Cwm yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd y Cyngor yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gynnal gwaith clirio llystyfiant, yn rhan o'r gwaith cynnal a chadw o amgylch sianeli a chwlferi'r cyrsiau dŵr.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gwaith clirio ar wahân er mwyn gwella'r ffyrdd mynediad, fel bod modd cynnal gwaith archwilio ar y safle yn y dyfodol.
Roedd trafodaethau am faterion ecolegol a chyfleoedd i gyflawni buddion o safbwynt bioamrywiaeth (trwy'r gofynion rheoli llystyfiant sy'n rhan o'r rhaglen diogelwch tomenni glo) yn rhan annatod o'r gwaith cynllunio ar gyfer y gwaith yma.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT, a bydd yn dechrau ddydd Llun, 19 Ionawr. Bydd y gwaith yn para tua chwe wythnos.
Mae'n bosibl y bydd trigolion sy'n byw yn yr ardal gyfagos yn gweld bod nifer y cerbydau adeiladu yn yr ardal yn cynyddu yn ystod oriau gwaith, rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn disgwyl i'r gwaith darfu llawer ar y gymuned gan y bydd y gwaith wedi'i gyfyngu i safle'r domen. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ar y safle er mwyn sicrhau bod trigolion yn effro i'r gwaith.
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru – mae'r Cyngor wedi sicrhau £11.4 miliwn yn rhan o'r grant i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2025/26.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 13/01/2026