Dyma roi gwybod i drigolion a defnyddwyr y ffordd yn Ynys-hir am gynllun Ffyrdd Cydnerth sydd ar y gweill. Bwriad y cynllun yw gwella’r system ddraenio ar y briffordd mewn lleoliad allweddol sy'n dueddol o gael llifogydd dŵr wyneb.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar y rhan honno o’r briffordd ar Heol Ynys-hir rhwng Uned Prydau yn y Gymuned y Cyngor a chylchfan yr A4233 - a bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Llun, 19 Ionawr.
Mae cyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r broblem sydd wedi arwain at lifogydd ar y ffordd yma ar sawl achlysur ers 2020.
Mae cyfres o arolygon ac archwiliadau wedi cael eu cynnal er mwyn llywio’r gwaith gwella yma. Cafodd cyllid y Rhaglen Ffyrdd Cydnerth a chyllid y Cyngor eu defnyddio yn 2024/25 i ddylunio'r cynllun.
Bydd gwaith yn dechrau ar y safle ar 19 Ionawr a bydd yn cynnwys gosod llinellau newydd ar gyfer draeniau cludo a gylïau ychwanegol – disgwylir i hyn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd angen cau ffyrdd, ond bydd angen cynllun rheoli traffig er mwyn sicrhau bod modd i gerbydau deithio i’r ddau gyfeiriad ar hyd Heol Ynys-hir.
Mae'r cam adeiladu'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, ar y cyd â chyfraniad gwerth 10% gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2025/26 a hynny trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.
Diolch i gymuned Ynys-hir am eich cydweithrediad tra bod y cynllun pwysig yma'n cael ei gyflawni dros yr wythnosau nesaf.
Wedi ei bostio ar 14/01/2026