Skip to main content

Cyn-filwyr Lleol yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu Hanrhydeddu yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru 2026

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o ddathlu cyflawniadau rhagorol cyn-filwyr a sefydliadau lleol a gafodd eu cydnabod yn seremoni Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2026, a gafodd ei chynnal ar 8 Gorffennaf yng ngwesty 4 seren y Vale Resort ym Mro Morgannwg.

Mae Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yn anrhydeddu cyflawniadau nodedig cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a sefydliadau sy'n eu cefnogi. Unwaith eto eleni roedd  nifer o enillwyr a chystadleuwyr yn y rownd derfynol o bob cwr o Rhondda Cynon Taf.

Llongyfarchiadau i bob un o'r enillwyr lleol:

  • Gareth Pennell – Enillydd y Wobr Aur: Cyflawniad Oes

Wedi'i noddi gan Hugh James, mae'r cyflawniad yma'n cydnabod unigolion am eu gyrfa filwrol gyfan a'u cyflawniadau mewn bywyd sifil.

  • Liam O'Leary – Enillydd y Wobr Aur: Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Wedi'i noddi gan Thales Group, mae'r wobr yma'n cydnabod cyn-filwyr neu sifiliaid sydd wedi gwirfoddoli eu hamser ac wedi cael effaith ar ddatblygiad cyn-filwyr, perfformwyr, clwb, eu cymuned leol neu'n ehangach, ac achlysuron, yn ogystal â chyfrannu at y pethau yma.

  • Michael Roach – Enillydd y Wobr Aur: Gwobr y Gymuned

Wedi'i noddi gan Vigilance, mae'r wobr yma'n cydnabod cyn-filwyr sy'n gweithio i fusnes, sefydliad neu elusen sydd wedi mynd y tu hwnt i'r gofyn dros y gymuned leol.

  • Martin Byrne – Enillydd Gwobr Aur: Entrepreneur y Flwyddyn

Mae'r categori yma wedi'i noddi gan gwmni Pinnacle Complete Office Solutions, ac mae'n cydnabod arweinwyr gwasanaeth sydd wedi meithrin syniadau gwreiddiol ac wedi dechrau eu busnesau eu hunain er budd y genedl.

  • Phil Richards – Enillydd y Wobr Arian: Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Michael Roach – Enillydd y Wobr Arian: Ysbrydoliaeth y Flwyddyn

Wedi'i noddi gan Rebecca a Tim Tomlin Reeves, mae'r wobr yma'n cydnabod y rhai sydd wedi ysbrydoli eraill yn eu cymuned neu ym myd busnes gyda'u gweithredoedd.

  • John Charles, Uchel Siryf Morgannwg Ganol – Enillydd y Wobr Efydd: Codwr Arian Elusen Filwrol y Flwyddyn

Wedi'i noddi gan Harlequin, mae'r wobr yma'n cydnabod cyn-filwr neu sifiliad sydd â brwdfrydedd dros helpu eraill a chodi arian ar gyfer sefydliadau elusennol.

Aeth y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog i'r seremoni, a oedd yn achlysur llawn emosiwn, balchder a dathlu. Un o uchafbwyntiau’r noson oedd gweld pobl ar eu traed yn rhoi cymeradwyaeth i Gareth Pennell wrth iddo dderbyn ei Wobr Cyflawniad Oes.

Mae'r Cyngor hefyd yn estyn ei longyfarchiadau i bedwar unigolyn lleol a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

  • Nigel Locke – Gwobr y Gymuned
  • Nigel Locke – Codwr Arian Elusen Filwrol y Flwyddyn
  • Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg (GIG Cymru i Gyn-filwyr) – Gwobr Iechyd a Lles
  • Grŵp Cyn-filwyr Cwm Cynon – Grŵp Cyn-filwyr y Flwyddyn

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n falch o gefnogi'r rheiny sy'n rhan o'n cymuned y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw, ac yn falch o hyrwyddo mentrau sy’n cefnogi eu hiechyd, eu lles, a’u llwyddiannau parhaus.”

“Rwyf mor falch y cafodd Rhondda Cynon Taf gynrychiolaeth mor gryf yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru eleni, wrth i gyn-filwyr a sefydliadau lleol gael eu cydnabod fel enillwyr, rhai a ddaeth yn ail a rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, a hynny ar draws nifer o gategorïau.

“Roedd hi’n foment arbennig iawn i weld pobl ar eu traed yn rhoi cymeradwyaeth i Gareth Pennell wrth i'r Wobr Aur Cyflawniad Oes gael ei gyflwyno iddo. Mae ei ymroddiad, ei wasanaeth a'i ymrwymiad parhaus i gefnogi eraill yn wirioneddol ysbrydoledig, ac mae'r gydnabyddiaeth yma'n haeddiannol iawn.

“Hoffwn hefyd longyfarch Liam O'Leary ar ennill y Wobr Aur yng nghategori Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Michael Roach ar dderbyn y Wobr Aur yng Ngwobr y Gymuned a'r Wobr Arian yng Ngwobr Ysbrydoliaeth y Flwyddyn, Phil Richards ar dderbyn y Wobr Arian yng nghategori Gwirfoddolwr y Flwyddyn, a John Charles, Uchel Siryf Morgannwg Ganol, ar dderbyn y Wobr Efydd yng nghategori Codwr Arian Elusen Filwrol y Flwyddyn.

“Mae’r gwobrau hyn yn dyst i gryfder, gwydnwch ac ysbryd cymunedol ein cyn-filwyr, codwyr arian a sefydliadau lleol ledled Rhondda Cynon Taf – ac rydyn ni'n hynod falch o weld eu hymroddiad yn cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol. Da iawn i bawb!”

Cafodd Gwobrau Cyn-filwyr Cymru ei sefydlu yn 2018 i ddathlu cyflawniadau cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a phersonél y Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu. Caiff y gwobrau eu cefnogi ledled y DU gan brif noddwr yr achlysur, Thales Group, gyda Sierra Nevada Mission Systems UK yn brif noddwr yng Nghymru, i gefnogi Cronfa Elusennol y Fyddin ac Elusen Môr-filwyr Brenhinol y Llynges Frenhinol.

Nod y gwobrau yw ysbrydoli'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth ar hyn o bryd a'r rhai a fydd yn ei adael yn y dyfodol trwy dynnu sylw at gyflawniadau'r rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd sifil.

Mae'r categorïau eraill yn cynnwys:

  • Model Rôl y Flwyddyn
  • Arweinydd y Flwyddyn
  • Cyflogwr y Flwyddyn
  • Busnes y Flwyddyn sy'n eiddo i Gyn-filwyr
  • Milwr Wrth Gefn y Flwyddyn
  • Grŵp Cyn-filwyr y Flwyddyn
  • Hyfforddwr Cadetiaid y Flwyddyn sy'n Oedolyn
  • Pencampwr Gwobrau Cyn-filwyr Cymru

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Gwobrau Cyn-filwyr Cymru - Gwobrau'r Cyn-filwyr

Mae Llinell Gyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 01443 425 020 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein i gael cymorth: Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 15/07/2026