Skip to main content

Strategaeth wedi'i Diweddaru er mwyn Lleihau Nifer Cartrefi Gwag

82475951_1781225488676643_4428971439571337216_n

Mae Strategaeth Cartrefi Gwag newydd wedi'i chreu er mwyn adeiladu ar y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud er mwyn lleihau nifer yr eiddo gwag ledled y Fwrdeistref Sirol, ac rydyn ni eisiau i drigolion leisio eu barn.

Ers 2017, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi helpu i leihau nifer y cartrefi sector preifat sy'n wag am fwy na chwe mis o 3,556 i 2,687, sef gostyngiad o 869 eiddo.

Mae cartrefi gwag yn adnodd tai sy'n cael ei wastraffu, ac yn gost ariannol i'r perchnogion a'r Cyngor. Mae hefyd modd iddyn nhw gael effaith negyddol ar gymunedau o ganlyniad i'w hymddangosiad, a thrwy ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae dod â'r eiddo yma yn ôl i ddefnydd yn ein helpu ni i gynyddu'r cyflenwad tai, yn cynorthwyo cymunedau lleol, ac yn darparu rhagor o gyfleoedd am dai fforddiadwy.

Mae'r Strategaeth Cartrefi Gwag (2026-2031) arfaethedig, yn nodi gweledigaeth glir:

"Defnyddio cartrefi gwag eto fel tai diogel o safon sy'n diwallu anghenion lleol, yn cefnogi cymunedau sy'n ffynnu ac yn defnyddio'r tai sydd eisoes ar gael i ni ledled Rhondda Cynon Taf yn y ffordd orau."

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth yma, mae'r Strategaeth wedi'i llunio yn seiliedig ar bedwar amcan strategol:

  • Cryfhau Partneriaethau

Parhau i weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, partneriaid sector preifat, a sefydliadau gwirfoddol er mwyn nodi ffyrdd newydd o ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, gan ehangu Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol y Cyngor a thrin a thrafod cyfleoedd i weithio gydag asiantau tai a chyfreithwyr profiant.

  • Darparu Cyngor, Cymorth a Chymorth Ariannol

Gwneud y mwyaf o gyfleoedd drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol, a benthyciadau Troi Tai'n Gartrefi, gan ddarparu gwybodaeth a chymorth clir i berchnogion eiddo drwy wefan Cartrefi Gwag gwell.

  • Darparu Camau Gorfodi Cymesur ac Effeithiol

Defnyddio dull cytbwys o ran cynorthwyo a gorfodi, gan gynnwys camau gorfodi lle bo angen, mesurau adfer dyledion a thargedu eiddo gwag problemus.

  • Cynorthwyo Adfywiad a Lles Cymunedol

Darparu ymyriadau wedi'u targedu mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan eiddo gwag, cynorthwyo cynlluniau adfywio canol trefi, gweithredu rhaglenni adnewyddu er mwyn gwella deilliannau cymunedau.

Roedd adroddiad diweddar gafodd ei ddarparu ar gyfer Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi tynnu sylw at gyflawniadau cadarnhaol pellach, gan gynnwys:

  • Darparu Cynllun Benthyciadau Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru, gan ddarparu benthyciadau a chyllid gwerth £1.85 miliwn, a throsoli buddsoddiad gwerth £2.21 miliwn mewn stoc tai preifat.
  • Arwain Cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd, gan helpu i ddod â 263 o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd drwy fuddsoddiad gwerth £4.6 miliwn yn Rhondda Cynon Taf.
  • Darparu Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, gan alluogi i 121 o gartrefi gwag gael eu defnyddio yn Rhondda Cynon Taf drwy gyllid grant gwerth £2.8 miliwn.
  • Sicrhau cyllid gwerth £7 miliwn o Raglen Cyfalaf Llety Dros Dro Llywodraeth Cymru gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, er mwyn dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd a lleihau pwysau digartrefedd.
  • Cynorthwyo 24 o brynwyr tro cyntaf drwy'r Cynllun Homestep Plus.
  • Datblygu Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol mewnol y Cyngor, sydd bellach yn rheoli ac yn gosod 54 o eiddo rhent preifat oedd yn arfer bod yn wag i aelwydydd sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol premiymau Treth y Cyngor, gafodd eu cyflwyno ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023, cafodd y premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor ei gyflwyno ym mis Ebrill 2023, gyda'r premiwm ar gyfer ail gartrefi yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2024. Mae'r premiymau yma wedi cyfrannu at leihad o 25% yn nifer y cartrefi gwag hirdymor.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai: "Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud dros y blynyddoedd diweddar yn dangos effaith gadarnhaol ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â chartrefi gwag. Ers cyflwyno ein Strategaeth Cartrefi Gwag cyntaf, rydyn ni wedi lleihau 869 yn nifer yr eiddo gwag.

"Mae cartrefi gwag yn cynrychioli cyfle wedi'i fethu ar adeg pan fo'r galw am dai yn parhau yn uchel. Mae hefyd modd iddyn nhw gael effaith negyddol ar drigolion a chymunedau cyfagos os byddan nhw'n cael eu gadael yn wag am gyfnodau hir.

"Mae'r Strategaeth Cartrefi Gwag 2026-2031 arfaethedig yn nodi sut y byddwn ni'n parhau i weithio mewn modd rhagweithiol gyda pherchnogion tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, sefydliadau cymunedol a phartneriaid eraill er mwyn dod â rhagor o eiddo yn ôl i ddefnydd. Mae'r Strategaeth yn cyfuno cymorth ymarferol, cymorth ariannol, a lle bo angen, camau gorfodi priodol.

"Mae hefyd yn rhoi canolbwynt cryf ar adfywio, lles cymunedol a gwneud y defnydd gorau posibl o'r stoc dai bresennol. Trwy fentrau megis yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol, rhaglenni wedi'u hariannu â grant ac ymyriadau wedi'u targedu, rydyn ni eisiau sicrhau bod modd i gartrefi gwag ddarparu llety diogel, o ansawdd da, sy'n diwallu anghenion lleol unwaith yn rhagor.

"Rydyn ni bellach yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd mewn perthynas â'r strategaeth arfaethedig. Bydd adborth gan drigolion, perchnogion eiddo a rhanddeiliaid yn helpu i lywio'r ddogfen derfynol cyn iddi gael ei chyflwyno er mwyn ei hystyried."

Bydd yr ymgynghoriad chwe wythnos o hyd yn rhoi cyfle i drigolion a rhanddeiliaid rannu sylwadau mewn perthynas â'r Strategaeth Cartrefi Gwag arfaethedig cyn i'r Cabinet ystyried fersiwn derfynol.

Cymerwch ran yn Ymgynghoriad y Strategaeth Cartrefi Gwag

Wedi ei bostio ar 17/07/2026