Skip to main content

Dathlu agor man cyhoeddus newydd ym Mhontypridd

Pontypridd M&S riverside plaza - Copy - Copy

Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau y bydd datblygiad safle hen siop M&S yng Nghanol Tref Pontypridd yn cael ei drosglwyddo i ddwylo'r Cyngor a bydd ar agor i'r cyhoedd ei ddefnyddio a'i fwynhau o ddydd Iau (25 Mehefin). Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ann Crimmings, wedi ymweld â'r safle i weld y gwaith paratoi terfynol yn cael ei wneud.

Diolch i'r gwaith datblygu cyffrous, mae'r adeiladau mawr, nad oedden nhw'n cael eu defnyddio, wedi cael eu trawsnewid yn fan canolog, bywiog. Mae ganddo olygfeydd o'r afon a'r parc, a bydd modd ei ddefnyddio i gefnogi achlysuron yng nghanol y dref. Mae mannau eistedd a mannau gwyrdd yno hefyd, ac mae bellach modd gweld yr afon o ganol y dref am y tro cyntaf ers dros 100 mlynedd.

Er bod y 'plaza glan yr afon' newydd ei sefydlu bellach yn barod i agor, mae rhywfaint o waith terfynol pwysig ar y gweill ond bydd wedi'i gwblhau mewn dim o dro. Mae hyn yn cynnwys gosod dau giosg bwyd/diod, a'r bwriad yw eu cludo i'r safle a'u gosod yn yr wythnosau nesaf.

Bydd y contractwr Horan Construction Ltd yn trosglwyddo safle Stryd Taf i'r Cyngor ddydd Iau, 25 Mehefin, ac yna bydd modd ei agor ar unwaith. Aeth y Cynghorydd Crimmings i weld yr ardal ddydd Llun, gan ddathlu'r buddsoddiad, a diolch i'r contractwr am gwblhau'r cynllun.

O ddydd Iau, bydd y safle ar agor o Stryd Taf, a bydd hefyd man mynediad ar wahân ger pont droed M&S. Bydd yn parhau ar agor tra bod y gwaith sy'n weddill yn cael ei gwblhau, ond bydd rhai ardaloedd wedi'u hynysu er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cam nesaf y gwaith ar y cyflenwad trydan i'r safle, a fydd yn cael ei gwblhau ar y cyd â'r Grid Cenedlaethol.

Bydd y ddau giosg bwyd/diod yn cael eu cludo i'r safle nos Sul (5pm-10pm, 28 Mehefin), felly bydd angen cau ffyrdd lleol am gyfnod byr. Mae'r Cyngor wedi rhannu rhagor o wybodaeth am hyn ar ei gyfryngau cymdeithasol. Ar ôl eu cludo i'r safle, bydd angen cysylltu'r ciosgau â gwasanaethau cyfleustodau a rhoi popeth yn ei le y tu mewn iddyn nhw.

Mae’r buddsoddiad blaenoriaeth yma'n rhan o Gynllun 'Creu Lleoedd' Pontypridd y Cyngor, sy’n cyflawni buddsoddiad adfywio ar draws y dref. Cafodd mwy na £5.6 miliwn o gyllid allanol ei sicrhau yn flaenorol i gyflawni'r prosiect, ac fe wnaeth Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru gyfrannu cyllid (£3.68 miliwn) yn ogystal â Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (£1.95 miliwn).

Meddai'rCynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai: "Rwy'n falch iawn o ddathlu agor y man cyhoeddus pwysig yma yng nghanol tref Pontypridd – mae'r Cyngor wedi cyflawni ei ymrwymiad i ddod â'r safle mawr yn ôl i ddefnydd." Mae'r prosiect yma, ynghyd â'r cynllun parth cyhoeddus ar safle'r hen neuadd bingo, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr wrth sicrhau bod yr ardal yma o'r dref yn teimlo'n fwy golau a llachar. Mae hefyd wedi creu man modern newydd y mae croeso i bawb ei fwynhau, gan ddwyn i'r golwg y golygfeydd gwych sy'n edrych dros yr afon a'r parc.

“Rydyn ni wedi derbyn cyllid a chymorth annatod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn cyflawni’r prosiect; mae'r Cyngor wedi sicrhau pecyn ariannol gwerth cyfanswm o £5.6 miliwn. Dyma’r stori lwyddiant ddiweddaraf yn ein Cynllun Creu Lleoedd ehangach ym Mhontypridd sydd wedi cyflawni prosiectau adfywio allweddol ar draws y dref. Mae hyn yn cynnwys datblygiad Llys Cadwyn, cynllun tai Cwrt yr Orsaf, Y Muni, YMa, a llawer o welliannau ym Mharc Ynysangahrad. Rydyn ni hefyd wrthi'n datblygu cynllun cyffrous ar gyfer yr orsaf heddlu a safle Maes Parcio Ffordd Berw, wrth inni ddechrau canolbwyntio nawr ar borth gogleddol y dref.

“Bydd ‘plaza glan yr afon’ yn barod i agor ddydd Iau, ac mae goleuadau, seddi, a mannau gwyrdd wedi'u gosod yno – a bydd dau giosg bwyd/diod yn cael eu cludo i'r safle ddydd Sul, 28 Mehefin. Mae'r rhain yn rhan o waith ychwanegol y bydd angen ei gwblhau, ac efallai y bydd ymwelwyr yn sylwi ar y gwaith yma'n digwydd yn fuan. Hoffwn ddiolch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â Phontypridd wrth inni gwblhau'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf – a hoffwn hefyd ddiolch i'n contractwr Horan am ei hymroddiad i gyflawni'r cynllun yma yn ôl yr amserlen i bawb ei fwynhau, yn enwedig dros yr haf.”

Mae'r cynllun wedi cynnwys nodweddion allweddol fel coed a dail, cynefinoedd bioamrywiol newydd, a datrysiadau draenio cynaliadwy. Mae'r rhan fwyaf o'r safle wedi'i chodi o'r parth llifogydd, sy'n seiliedig ar fodelu llifogydd. Mae arwyneb newydd hefyd wedi'i osod ar y lôn sy'n arwain at Barc Ynysangharad.

Diben Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yw ailddatblygu a gwella canol trefi a dinasoedd. Mae'r Rhaglen yn mynd ati'n weithredol i annog trefi defnydd cymysg fel lleoedd i fyw, gweithio ac aros ynddyn nhw ac i ymweld â nhw. Rhagor o wybodaeth yma.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y DU yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o'r DU.I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Wedi ei bostio ar 24/06/2026