Skip to main content

Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2026: 'Troi Ymwybyddiaeth yn Gamau Gweithredu'

We're supporting (1)

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o nodi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth (16–22 Mawrth) gydag ymgyrch wythnos o hyd yn ymwneud â thema eleni, 'Troi Ymwybyddiaeth yn Gamau Gweithredu: Achosi Newid Sefydliadol'. Drwy gydol yr wythnos, byddwn ni'n amlygu sut mae Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth y Cyngor yn cyflwyno gwelliannau o ran diwylliant, polisi ac arfer ar draws y sefydliad.

Cafodd Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth ei sefydlu yn 2018 gan Siena Castellon, eiriolwr o'r DU. Mae'n fenter fyd-eang sy'n ceisio newid y naratif drwy herio ystrydebau, cydnabod yr heriau mae nifer o bobl niwroamrywiol yn eu hwynebu, a dathlu eu cryfderau a'u doniau unigryw. Bob blwyddyn, mae'n amlinellu gweithredoedd ymarferol y mae modd i sefydliadau eu defnyddio er mwyn adeiladu amgylcheddau niwrogynhwysol.

Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, mae ein Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol yn canolbwyntio ar dri phrif faes: cymorth cyfoedion, newid sefydliadol mewn polisi ac arfer, a chodi ymwybyddiaeth a chwalu camsyniadau. Er mwyn cefnogi'r thema gyffredinol, bydd y Rhwydwaith yn cynnal ei drydydd achlysur blynyddol i staff – Masgio a Gorflino: Costau Cudd ‘Ceisio Peidio  Sefyll Allan’. Bydd yr achlysur yn dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o'r Cyngor, gan gynnwys uwch arweinwyr ac aelodau etholedig, i wrando ar y panel profiad byw cyntaf erioed, herio camdybiaethau cyffredin, ac archwilio camau ymarferol er mwyn helpu i leihau'r angen i fasgio yn y gwaith – gan droi ymwybyddiaeth yn gamau gweithredu.

Y tu hwnt i'r achlysur, byddwn ni hefyd yn amlygu rhaglen newid ehangach y Rhwydwaith, gan gynnwys llwybrau amlycach at addasiadau rhesymol, sesiynau gwybodaeth gwell gan reolwyr mewn perthynas â niwrogynhwysiant, a gwell gyfeiriadaeth fewnol at gymorth. Mae'r Cyngor hefyd yn falch o gynnal Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl, sy'n cynnwys pobl niwroamrywiol.

Meddai Zoe, Cadeirydd y Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol: "Mae aelodau o'n Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth yn dweud wrthyn ni bod cymorth cyfoedion yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer y rheiny sy'n aros am asesiadau, am ei fod yn lleihau ynysigrwydd cymdeithasol ac yn darparu strategaethau ymarferol ar gyfer gwaith o ddydd i ddydd.

"Rydyn ni'n falch o gynnal ein trydydd achlysur blynyddol eleni, sy'n canolbwyntio ar fasgio a gorflino, ac i gynnal ein panel profiad byw cyntaf erioed. A ninnau'n rhwydwaith, rydyn ni'n angerddol o ran parhau i godi ymwybyddiaeth a chwalu camsyniadau er mwyn ceisio gwneud y system yn haws i'w lywio ar gyfer ein cydweithwyr niwroamrywiol."

Tra bod ein Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth wedi cyflawni newidiadau cadarnhaol ar draws y Cyngor yn barod, mae'n bwysig cydnabod bod pobl niwroamrywiol yn parhau i wynebu rhwystrau yn y gwaith. Yn genedlaethol, yn ôl yr Adran Waith a Phensiynau, cyfradd cyflogaeth pobl anabl oedd 52.8% erbyn ail chwarter 2025, o'i gymharu ag 82.5% o bobl nad oes gyda nhw anabledd. Yn rhan o hyn, mae gyda phobl ag awtistiaeth rai o'r cyfraddau cyflogaeth isaf, gydag ond 34% o bobl ag awtistiaeth mewn cyflogaeth yn 2024/2025.

Mae bylchau o ran cyflog yn parhau hefyd, gyda gweithwyr ag anabledd yn ennill oddeutu 12.7% yn llai ar y cyfan o gymharu â gweithwyr nad oes gyda nhw anabledd. Ar gyfer y rheiny ag awtistiaeth, roedd y bwlch o ran cyflog yn 27.9%, ac ar gyfer y rheiny ag anawsterau dysgu penodol neu ddifrifol, y gyfradd oedd 20.3%

Mae'r ffigurau yma'n nodi'n union pam bod canolbwynt eleni ar fasgio a gorflino o bwys. Mae ein Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth yn trosi profiad byw yn gamau ymarferol er mwyn helpu i leihau'r angen i fasgio ac i wneud i'r gwaith weithio ar eu cyfer.

Meddai Louise Davies, Hyrwyddwr Niwroamrywiaeth yr Uwch Garfan Rheoli: "Mae ein cydweithwyr niwroamrywiol wedi trosi profiad byw yn welliannau go iawn, gan gynnwys llywio ein cynllun addasiadau rhesymol, darparu hyfforddiant niwrogynhwysol mewn sesiynau gwybodaeth gan reolwyr, a gweithio tuag at brosesau mwy teg.

"A minnau'n Uwch Hyrwyddwr Niwroamrywaieth yn y Cyngor, rwy'n angerddol yn benodol am yrru newid cadarnhaol yn ei flaen ar gyfer ein gweithwyr niwroamrywiol. Mae popeth yn ymwneud â meithrin diwylliant lle nad yw pobl yn teimlo bod angen iddyn nhw fasgio er mwyn perthyn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth mae'r Rhwydwaith yn parhau i'w gyflawni."

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Troi ymwybyddiaeth yn gamau gweithredu yw'r safon rydyn ni'n ei osod, ac rwy'n falch o weld staff yn arwain y gwaith pwysig yma. Mae dylunio cynhwysol, prosesau teg, a diwylliant cynorthwyol yn sicrhau bod pawb ar draws ein sefydliad yn elwa.

"A minnau'n Hyrwyddwr Cydraddoldeb y Cyngor, rwy'n cydnabod yr angen am newid cadarnhaol sy'n caniatáu i'n cydweithwyr niwroamrywiol barhau a ffynnu mewn gwaith. Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r Rhwydwaith a'i aelodau er mwyn gwella'r broses llunio penderfyniadau, cadw talent, a meithrin diwylliant lle nad oes unrhyw un yn teimlo'r angen i fasgio."

Cafodd Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth ei sefydlu gan Sienna Castellon yn 2018, ac mae'n fenter fyd-eang sy'n herio ystrydebau a chamdybiaethau am wahaniaethau niwrolegol. Mae'n ceisio trawsnewid sut mae unigolion niwroamrywiol yn cael eu canfod a'u cynorthwyo drwy ddarparu'r cyfle i ysgolion, prifysgolion, sefydliadau, ac eraill o amgylch y byd gydnabod nifer o sgiliau a doniau unigolion niwroamrywiol, a chreu diwylliannau mwy cynhwysol a theg sy'n dathlu gwahaniaethau ac yn grymuso pob unigolyn.

I ddysgu rhagor am waith y mudiad, ewch i: Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth

Achlysuron

Ehangu cymorth, lleihau rhwystrau

17 Mawrth 2026, 1–2pm

Bydd y sesiwn yma'n archwilio sut mae modd i egwyddorion dylunio cyffredin drawsnewid gweithleoedd, gan sicrhau bod tasgau, amgylcheddau, a dulliau cyfathrebu yn fwy hyblyg a hygyrch i bawb.

Cofrestrwch yma

Arwain y ffordd: Arweinyddiaeth niwrogynhwysol ar waith

18 Mawrth 2026, 11–2pm

Gan ganolbwyntio ar swyddogaeth ganolog arweinyddaeth o ran gyrru newid sefydliadol tuag at niwrogynhwysiant, mae'r achlysur yma'n amlygu pwysigrwydd meithrin diogelwch seicolegol, ymddiriedaeth, a natur agored.

Cofrestrwch yma

O broses i arfer: Ymgorffori niwrogynhwysiant yn nhaith y gweithiwr

19 Mawrth 2026, 1–2pm

Sesiwn ymarferol ar gyfer gweithwyr Adnoddau Dynol a rheolwyr mewn perthynas â phlethu niwrogynhwysiant drwy bob cam o brofiad y gweithiwr, o atyniad, recriwtio a sefydlu i reoli cyflawniad a chynnydd gyrfa.

Cofrestrwch yma

Dyfodol niwrogynhwysiant: Arloesedd, data, ac effaith

20 Mawrth 2026, 1–2pm

Bydd y sesiwn olaf yn edrych ymlaen at sut fydd technoleg, tystiolaeth, a phartneriaethau yn gyrru niwrogynhwysiant cynaliadwy.

Cofrestrwch yma

Mae'r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol yn falch o rannu bod modd cofrestru nawr ar gyfer Niwrogynhwysiant – Mae o Bwys! - dau achlysur ar-lein AM DDIM fydd yn cael eu cynnal yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth:

Niwroamrywiaeth – Mae o Bwys! – Sesiwn 2:  Sut rydyn ni'n Creu Cymdeithas Niwrogynhwysol

Dydd Gwener 20 Mawrth 2026, 10am–12pm

Bydd y sesiwn yma yn cynnwys Rosie Higgins o Unquiet Media. Bydd hi'n ein harwain ni drwy ffyrdd ymarferol o greu gweithleoedd a chymunedau mwy niwrogynhwysol.

Dyma ragor o wybodaeth a dolenni i gofrestru:
Niwrogynhwysiant – Mae o Bwys! - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team

Wedi ei bostio ar 16/03/2026