Dyma roi gwybod i drigolion y bydd Heol y Mynydd Llanwynno ar gau o ddydd Llun i ddydd Mercher yr wythnos nesaf, er mwyn cynnal gwaith brys ar gwlfer.
Bydd y ffordd ar gau rhwng Bryn Ffynnon a Heol Llanwynno, i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o'r gyffordd yn Llanwynno - am bellter oddeutu 265 metr, yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi ar y map canlynol.
Rhaid cau'r ffordd er mwyn cynnal gwaith atgyweirio brys ar gwlfer. Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni gan gontractwr y Cyngor, Hammond ECS Ltd.
Mae disgwyl i'r gwaith bara tridiau - o ddydd Llun, 18 Mai, i ddydd Mercher, 20 Mai. Bydd arwyddion yn cael eu gosod er mwyn dangos y llwybr amgen i fodurwyr. Mae'r llwybr amgen wedi'i gynnwys yn y ddolen uchod hefyd.
Mae'r llwybr yn mynd ar hyd y Ffordd Ddienw rhwng Bryn Ffynnon a Heol Llanwynno, Trem Hyfryd, Heol y Mynach, y B4273, Teras y Graig a'r Ffordd Ddienw rhwng Bryn Ffynnon a Heol Pen-y-wal.
O ganlyniad i natur a lleoliad y gwaith, does dim modd cynnal mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys, ar gyfer cerddwyr, nac ychwaith at eiddo.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 13/05/2026