Bydd Pontypridd yn troi'n las eto ym mis Mai wrth i Gyngor Rhondda Cynon Taf ymuno â sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid i nodi Wythnos Gweithredu dros Ddementia 2026 rhwng 18 a 24 Mai.
Drwy gydol yr wythnos, bydd rhaglen eang o achlysuron a gweithgareddau sy’n deall dementia yn cael eu cynnal ledled Pontypridd - gan helpu i godi ymwybyddiaeth o ddementia, hyrwyddo pwysigrwydd diagnosis cynnar, a sicrhau bod y rheiny sy'n byw gyda dementia (yn ogystal â'u teuluoedd, eu ffrindiau a'u cynhalwyr) yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi, eu cynnwys ac yn rhan o'u cymuned leol.
Bydd achlysuron yn cael eu cynnal mewn lleoliadau lleol – gan gynnwys adeilad Yma, Llyfrgell Pontypridd, Amgueddfa Pontypridd, Gardd Gymunedol Stryd y Ddôl, Calon Taf a'r Muni. Bydd yr achlysuron yn cynnwys gweithdai creadigol, sesiynau rhannu atgofion a herio camsyniadau, yn ogystal â cherddoriaeth fyw, perfformiadau, stondinau gwybodaeth a chyfleoedd i bobl o bob oed ddod at ei gilydd a chysylltu. Yn ogystal â hyn, bydd adeiladau ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu goleuo'n las i ddangos undod ac er mwyn annog rhagor o bobl i weithredu.
Un o uchafbwyntiau allweddol yr wythnos fydd y Diwrnod Gweithgareddau Cymunedol sy’n cael ei gynnal gan grŵp Pontypridd sy’n Deall Dementia ddydd Mercher 20 Mai. Mae’r diwrnod yma hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Bydd ystod eang o weithgareddau sy’n deall dementia yn cael eu cynnal yng nghanol tref Pontypridd, adeilad YMa a Llyfrgell Pontypridd, gan gynnwys gweithdai creadigol, perfformiadau cerddoriaeth fyw, sesiynau cyngor a theithiau cerdded i’r gymuned. Mae'r achlysur rhad ac am ddim yma, sydd ar agor i bobl o bob oed, yn ceisio annog pobl i greu cysylltiadau, lleihau stigma ac arddangos y cymorth sydd ar gael yn lleol.
Meddai Cerilynne Higgins, Cadeirydd Pontypridd sy'n Deall Dementia: “Mae Pontypridd sy’n Deall Dementia yn cynnal achlysuron Troi Ponty'n Las yn ystod Wythnos Gweithredu dros Ddementia i godi ymwybyddiaeth a chynyddu cysylltiadau â’r gymuned trwy gynnig cyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau newydd a chyfarwydd, a chael mynediad at wybodaeth a chyngor mewn lleoliadau lleol. Dyma achlysur i bawb, sy’n enghraifft wych o ymrwymiad Pontypridd sy’n Deall Dementia a'i bartneriaid i sicrhau bod ein cymunedau'n groesawgar ac yn hygyrch.”
Ymgyrch flynyddol a gafodd ei sefydlu i annog pobl i weithredu er mwyn rhoi cymorth i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia yw Wythnos Gweithredu dros Ddementia, gan daflu goleuni ar bwysigrwydd diagnosis cynnar a gwasanaethau cymorth. Cafodd achlysur Troi Ponty'n Las ei sefydlu'n rhan o'r wythnos yma gan grŵp Pontypridd sy’n Deall Dementia.
Mae dementia yn gyflwr cynyddol sy'n effeithio ar nerfgelloedd yr ymennydd, gan arwain at golli cof, dryswch, anawsterau o ran cyfathrebu a newidiadau mewn ymddygiad. Dyma'r cyflwr sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau ymhlith pobl y DU ac mae yna lawer o wahanol fathau. Clefyd Alzheimer yw'r mwyaf cyffredin.
Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, mae 1 o bob 3 pherson yn y DU ac 1 o bob 2 berson yng Nghymru yn byw gyda dementia heb ddiagnosis. Mae diagnosis cynnar hanfodol, gyda 91% o'r rhai sy'n cael eu heffeithio yn dweud bod manteision clir o gael diagnosis.
Anogir unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â dementia i ddefnyddio'r gwiriwr symptomau ar-lein yma: www.alzheimers.org.uk/form/checklist-for-dementia-symptoms.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn: “Mae dementia yn parhau i gynrychioli un o’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf arwyddocaol rydyn ni’n eu hwynebu. Dyma’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymhlith pobl yn y DU. Mae'n gallu bod yn brofiad ynysig, ond mae modd i ddiagnosis cynnar a'r cymorth cywir wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“I nodi Wythnos Gweithredu dros Ddementia, mae’r Cyngor yn falch o gydweithio â sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid gwirfoddol ar gyfres o achlysuron sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth, herio cam-dybiaethau a chyfeirio unigolion at gymorth hanfodol. Trwy Droi Ponty'n Las eto eleni, rydyn ni'n dangos undod â'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan ddementia.
“Drwy gydweithio a gweithredu cymunedol, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud Rhondda Cynon Taf yn gymuned sy’n deall dementia lle mae’r rhai sydd wedi'u heffeithio gan ddementia a’u hanwyliaid yn teimlo eu bod nhw'n cael eu deall, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
“Rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn y sesiynau sydd fwyaf addas iddyn nhw.”
I ddysgu rhagor ynglŷn ag Wythnos Gweithredu dros Ddementia, ewch i: https://www.alzheimers.org.uk/get-involved/dementia-action-week
Am gymorth mewn perthynas â dementia, ewch i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/AdultsandOlderPeople/Helptoliveathome/Needsassessmentforadultsorolderpeople.aspx
Achlysuron Lleol
Dydd Llun (18 Mai)
- Cwrdd ar nos Lun: Sesiwn Hel Atgofion a Herio Camsyniadau, Amgueddfa Pontypridd (10am-1pm) Wedi'i gynnal gan Gyngor Tref Pontypridd
Dydd Mawrth (19 Mai)
- Grŵp Cymorth The Bridge, Amgueddfa Pontypridd (10am-12pm) Wedi'i gynnal gan Gyngor Tref Pontypridd
Dydd Mercher (20 Mai)
Diwrnod o weithgareddau i'r gymuned yn adeilad YMa a Llyfrgell Pontypridd! Disgwyliwch ddiwrnod llawn achlysuron:
- 10.30am: Agor yr achlysur yn swyddogol. Croeso a sylwadau agoriadol gan y Maer a'r Cynghorydd Gareth Caple yn adeilad YMa.
- 10.15am: Sesiwn Crochenwaith. Gweithdy crochenwaith wedi'i gynnal yn adeilad YMa.
- 10.50am: Ysgolion yn canu yn Llyfrgell Pontypridd.
- 11am: Cyngor ynghylch cynllunio gofal ar gyfer y dyfodol. Gwybodaeth a chyngor ynghylch cynllunio ar gyfer y dyfodol. Wedi'i gynnal yn Hwb dros dro YMa.
- 11.15am: Sesiwn Ganu i bawb. Wedi'i chynnal yn Theatr yr YMa.
- 11am: Perfformiad ar y Delyn. Wedi'i chynnal yn yr Ystafell Wydr yn Llyfrgell Pontypridd.
- 12.30pm: Sesiwn ymarfer corff, YMa.
- 1pm: Sesiwn Cerdded a Chanu gyda Trivallis. Dechrau ym Marchnad Pontypridd.
- 1.30pm: Perfformiad ar y Delyn, YMa.
- 2.30pm: Perfformiad Samba. Wedi'i gynnal yn adeilad YMa.
- 3.25pm: Perfformiad Côr. Wedi'i gynnal yn adeilad YMa i gau'r achlysur.
Achlysuron eraill:
- Llwybr yr Ardd Synhwyrau, 11am. Wedi'i gynnal gan Gyngor Tref Pontypridd yng Ngardd Gymunedol Stryd y Ddôl.
Dydd Iau (21 Mai)
- Sesiwn hel atgofion a pharti priodas (10am-2pm), Calon Taf Wedi'i chynnal gan Garfan y Cof Taf-elái
Dydd Gwener (22 Mai)
- Diwrnod Sinema Y Muni a Grŵp Pontypridd sy’n Deall Dementia, rhwng 10.30am a 1.30pm, gan ddechrau am 11am (sioe 3 awr o hyd), gan gynnwys egwyl ar gyfer cinio.
Diwrnod sy’n Deall Dementia am ddim yn Y Muni gan gynnwys:
- Perfformiad theatr byr gan Kitisch N Sync Collective.
- Profiad Caffi Cof hiraethus gyda the, coffi, brechdanau a phicau ar y maen am ddim.
- Dangosiad hamddenol o Blue Hawaii yn serennu Elvis Presley ac Angela Lansbury.
Wedi'i gynnal gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Bydd angen prynu tocyn o ganlyniad i gapasiti’r gwasanaeth arlwyo. Archebwch nawr.
Wedi ei bostio ar 14/05/2026