Skip to main content

Dathlu'r Cynorthwywyr Personol sy'n gwneud gwahaniaeth ledled Rhondda Cynon Taf

Mae'r cyfraniad hanfodol a wneir gan Gynorthwywyr Personol i bobl a theuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf yn cael ei ddathlu yn rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol.

Bydd Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol, sy’n cael ei gynnal ddydd Gwener, 13 Tachwedd, yn cydnabod ac yn dathlu'r bobl sy'n darparu cymorth personol, gan helpu unigolion i fyw'n fwy annibynnol, cyflawni eu nodau a pharhau i fod mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'r cymunedau sy'n bwysig iddyn nhw.

Yn genedlaethol, nod yr ymgyrch flynyddol yma yw codi proffil y gweithlu, ac mae'n nodi bod y rôl yn fwy na swydd, gan ei chydnabod yn yrfa werth chweil lle mae modd i bobl wneud gwahaniaeth uniongyrchol i fywyd rhywun.

Mae Cynorthwywyr Personol, a elwir yn aml yn 'PAs' yn Saesneg, yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan unigolyn sydd angen gofal neu gymorth, neu gan rywun sy'n gweithredu ar ei ran. Lle mae rhywun yn gymwys, mae modd defnyddio Taliadau Uniongyrchol i gyflogi Cynorthwy-ydd Personol, gan roi mwy o ddewis a rheolaeth iddo dros pwy sy'n darparu cymorth iddo a sut mae'n cael ei ddarparu. Mae gwaith PA yn cael ei lunio o amgylch anghenion, arferion, diddordebau a nodau unigol y person.

Nid oes dwy rôl yr un fath. Yn dibynnu ar y person maen nhw'n ei gynorthwyo, mae modd i’r gwaith gynnwys helpu gyda threfnau dyddiol a gofal personol, hwyluso mynediad at addysg neu gyflogaeth, mynychu apwyntiadau, mwynhau hobïau, mynd allan i'r gymuned neu gynnal perthnasoedd a bywyd teuluol.

I nodi Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhannu stori Garran a'i gynorthwy-ydd personol hirhoedlog, Tracey.

Dechreuodd Tracey helpu Garran a'i deulu yn ffrind i ddechrau. Ym mis Ionawr 2012, galluogodd Taliadau Uniongyrchol iddi ymgymryd â rôl Cynorthwy-ydd Personol â thâl.

Bron i 20 mlynedd ar ôl iddi ddechrau cynorthwyo'r teulu, mae Tracey yn parhau i fod yn rhan bwysig o fywyd Garran. Mae hi'n ei gynorthwyo gyda'i anghenion beunyddiol ac yn ei alluogi i fwynhau'r gweithgareddau sy'n bwysig iddo, gan gynnwys cerddoriaeth, cyngherddau, diwrnodau allan a gwyliau teuluol.

Mewn fideo newydd a gafodd ei gynhyrchu ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol, meddai Tracey: “Rydyn ni’n cael cymaint o hwyl hefyd.  Dydy e ddim yn waith difrifol drwy'r amser… Mae'n debycach i ofalu amdano yn hytrach na swydd.”

Mae mam Garran, Jayne, yn egluro bod dewis Cynorthwywyr Personol yr oedd y teulu eisoes yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw'n arbennig o bwysig oherwydd nad yw Garran yn siarad ac mae ganddo anghenion cymorth sylweddol.

Meddai Jayne: “[Mae wedi gwneud] gwahaniaeth enfawr i ni… Cymorth Tracey yn gyrru’r fan [yw] sut mae Garran yn mynd o gwmpas ac yn mynd allan. Hyd yn oed o ran gwyliau, oni bai amdanyn nhw, fydden ni ddim yn mynd ar wyliau teuluol.”

Mae ymddiriedaeth a chysondeb yn rhan bwysig o'r trefniant.  Ar ôl gweithio gyda Garran ers blynyddoedd lawer, mae Tracey yn deall ei drefn arferol a'i anghenion unigol, tra bod cyfathrebu agored a hyder rhwng Tracey a'r teulu yn helpu'r gwaith cymorth yn effeithiol ac yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau dyddiol ar Jayne a'r teulu ehangach.

Mae'r ffilm hefyd yn tynnu sylw at y cyfrifoldebau sylweddol y mae modd i PAs eu cyflawni y tu ôl i'r llenni, o ofal personol a chynorthwyo teuluoedd trwy gyfnodau anodd i ymateb mewn argyfwng.

Mae Jayne yn disgrifio sut helpodd Tracey i achub bywyd Garran pan gafodd ataliad ar y galon, gan berfformio CPR tra bod diffibriliwr yn cael ei gasglu o'r pentref. Yn dilyn y digwyddiad, helpodd Tracey a'r teulu i godi tua £1,700 mewn pythefnos i sicrhau diffibriliwr cymunedol ar gyfer eu stryd, gan fod o fudd i'r gymuned ehangach yn ogystal â Garran.

Wrth fyfyrio ar y rôl y mae PAs yn ei chyflawni, ychwanegodd  Jayne: “Mae cynorthwywyr personol yn mynd trwy lawer os ydyn nhw mor agos ac os ydyn nhw mor ofalgar a mor dda â hynny. Maen nhw'n mynd trwy'r emosiynau rydyn ni wedi mynd drwyddyn nhw… Maen nhw'n bendant yn haeddu'r gydnabyddiaeth.”

Gwrandewch ar Tracey a Jayne yn siarad am rôl bwysig Cynorthwywyr Personol:

https://youtu.be/5O5_H-1okC0?si=72FLFDNmTDZASmTo

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol yn gyfle pwysig i gydnabod a diolch i’r Cynorthwywyr Personol sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a theuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf.

“Fel mae stori Garran yn ei ddangos, dyma rôl amrywiol a chyfrifol sydd wedi’i hadeiladu o amgylch yr unigolyn. Mae modd i Gynorthwywyr helpu pobl i gymryd rhan yn eu cymunedau, cynnal perthnasoedd, mwynhau'r gweithgareddau sy'n bwysig iddyn nhw a chael rhagor o ddewis dros eu bywydau beunyddiol.

“Mae modd i Daliadau Uniongyrchol roi mwy o reolaeth i breswylwyr cymwys dros sut mae eu hanghenion gofal a chymorth asesedig yn cael eu diwallu, gan gynnwys yr opsiwn i gyflogi Cynorthwy-ydd Personol. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n credu y gallai'r dull yma weithio iddyn nhw neu eu teulu i siarad â'u hymarferydd gofal cymdeithasol neu gysylltu â'r Garfan Taliadau Uniongyrchol i ddysgu rhagor.

“Ar Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol, hoffwn ddiolch i Tracey a’r holl Gynorthwywyr Personol ledled Rhondda Cynon Taf am yr ymrwymiad, y sgiliau a’r tosturi maen nhw’n eu cynnig i’w rolau. Efallai na fydd eu gwaith bob amser yn weladwy, ond mae modd i'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i unigolion a theuluoedd newid bywydau.”

Gwybodaeth am Ddiwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol

Mae Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol  yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 13 Tachwedd a chafodd ei greu er mwyn cydnabod, dathlu a hyrwyddo'r cyfraniad y mae Cynorthwywyr Personol yn ei wneud i fywydau a chymunedau pobl.

Dysgwch ragor am Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Personol.

Taliadau Uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf 

Taliadau Uniongyrchol yw taliadau arian parod a ddarperir yn lle gwasanaethau y mae'r Cyngor wedi asesu bod eu hangen ar unigolyn, cynhaliwr neu deulu.  Maen nhw wedi cael eu cynllunio er mwyn rhoi rhagor o ddewis a rheolaeth i'r unigolyn, neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, dros sut mae'r anghenion gofal a chymorth hynny'n cael eu diwallu.

Mae modd defnyddio'r taliadau i gyflogi Cynorthwy-ydd Personol neu i dalu am gymorth gan asiantaeth ofal gofrestredig, yn unol â'r canlyniadau a nodwyd yng nghynllun gofal a chymorth yr unigolyn. Mae modd i'r trefniant sicrhau bod modd recriwtio rhywun y mae ei brofiad, ei werthoedd a'i bersonoliaeth yn addas i'r unigolyn, gan helpu i greu cymorth cyson a dibynadwy.

Mae pobl sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol yn cymryd cyfrifoldeb am reoli eu trefniadau gofal o ddydd i ddydd, ond mae cymorth gyda'r cyfrifoldebau yma ar gael. Mae Canolfan Byw Annibynnol Dewis yn darparu gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant a chymorth ymarferol i bobl sy'n defnyddio, neu sy'n ystyried defnyddio, Taliadau Uniongyrchol.

Mae modd i drigolion sydd â diddordeb mewn Taliadau Uniongyrchol siarad â'u hymarferydd gofal cymdeithasol neu gysylltu â charfanau Taliadau Uniongyrchol y Cyngor:

  • Taliadau Uniongyrchol i Oedolion: 01443 425 003
  • Taliadau Uniongyrchol i Blant: 01443 425 006
  • Canolfan Byw Annibynnol Dewis: 01443 827 930 neu info@dewiscil.org.uk 

Dysgwch ragor am Daliadau Uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 13/11/2026