Yn fuan, bydd y Cyngor yn gosod seilwaith lliniaru perygl llifogydd ar Stryd yr Aifft yn Trefforest. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yr wythnos yma.
Mae'r cynllun sy'n dechrau o ddydd Mercher, 18 Tachwedd, yn cael ei ariannu trwy Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 - ac mae disgwyl i'r gwaith para tua wyth wythnos.
Bydd y gwaith gan y contractwr Calibre Contracting Ltd yn gosod gorsaf bwmpio dŵr wyneb newydd ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, ger Stryd y Nîl.
Does dim angen cau ffyrdd ar gyfer y gwaith yma a bydd mynediad at eiddo yn cael ei gynnal - bydd angen creu mynedfa dros dro ar gyfer y safle gwaith, gan achosi cyn lleied o darfu â phosibl.
Mae'n bosibl na fydd rhai mannau parcio ar gael er mwyn sefydlu'r fynedfa dros dro a hwyluso nwyddau'n cyrraedd y safle gwaith.
Mae'r cynllun yma yn Trefforest yn un o nifer sy'n cael eu darparu eleni trwy ddwy raglen ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd.
Mae'r Cyngor wedi derbyn dros £4 miliwn mewn cyllid gan y rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r Grant Gwaith Graddfa Fach - a hynny heb gynnwys cyllid cyfatebol gan y Cyngor.
Diolch ymlaen llaw i gymuned Trefforest am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd ar y gweill.
Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y Cyngor mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 16/11/2026