Heddiw yw dechrau Wythnos Gofal gan Berthynas 2026. Mae'n gyfle i daflu goleuni ar rôl hanfodol y perthnasau a'r ffrindiau sy'n camu i'r adwy i fagu plant pan nad yw eu rhieni'n gallu gwneud hynny.
Mae'n gyfle i Gyngor Rhondda Cynon Taf ddathlu'r nifer o neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod, brodyr a chwiorydd hŷn a ffrindiau teulu ledled y fwrdeistref sirol sy'n darparu cartrefi diogel a chariadus i blant - a'u hatgoffa o'r gefnogaeth sydd ar gael!
Mae'r Cyngor wedi ymuno â'r elusen Kinship i gefnogi pob cynhaliwr sy'n berthynas, hyd yn oed y rhai nad oes ganddynt orchymyn cyfreithiol, trwy'r cynllun Kinship Connected.
Mae Emma, gweithiwr cymorth teuluol ymroddedig, wrth law i weithio gyda chynhalwyr, gan eu helpu i ddatblygu cynllun personol sy'n diwallu anghenion eu teulu.
Mae yna hefyd grwpiau cymorth, achlysuron cymdeithasol a gwybodaeth a llawer yn rhagor yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn i bobl gymryd rhan ynddyn nhw.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae Wythnos Gofal gan Berthynas yn rhoi cyfle inni ddathlu a thaflu goleuni ar bawb ledled y fwrdeistref sirol sydd wedi camu i’r adwy i ofalu am blentyn ar ran ffrind neu aelod o’r teulu.
“Mae’n gyfle i gydnabod eu cyfraniadau anhygoel ac i godi ymwybyddiaeth o’r her unigryw maen nhw’n ei hwynebu.
“Mae ein gwaith gyda’r elusen Kinship yn golygu bod modd inni gyflwyno, gyda gweithiwr cymorth ymroddedig, amrywiaeth o fentrau i helpu’r rhai sydd wedi ysgwyddo’r rôl anhygoel yma.”
Mae modd dysgu rhagor am Kinship Connect yn Rhondda Cynon Taf yma.
Wedi ei bostio ar 05/10/2026