Skip to main content

Mae gwaith yn mynd rhagddo yn dilyn adleoli Cofeb Ryfel Tonypandy

Mae cofeb y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd gynt wedi’i lleoli ar dir Eglwys Livingway, wedi cael ei symud i leoliad mwy hygyrch yng nghanol tref Tonypandy.

Mae'r gofeb wedi'i gosod uwchben y gofeb ryfel bresennol ar Stryd Dunraven, yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i wella'r ardal gyfagos a gwarchod y nodweddion cymunedol pwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ar ôl cwblhau'r gwaith o arllwys concrit ar gyfer y gilfach, symudwyd y gofeb yn ofalus o Eglwys Livingway a'i osod yn ei leoliad newydd.

Gwahoddwyd trigolion i weld y cynigion a gwneud sylwadau arnyn nhw yn gynnar ym mis Medi, mewn sesiynau ymgynghori a gynhaliwyd ym Marchnad Tonypandy a Llyfrgell Tonypandy. Roedd y cynigion yn cynnwys symud y gofeb, ynghyd â glanhau, ail-ysgrifennu'r llythrennau a gwneud gwelliannau ehangach i'r ardal gyfagos. Gweithiodd y Cyngor gyda chontractwyr arbenigol i adleoli'r gofeb yn ofalus.

Cynhelir sesiwn glanhau cymunedol am 10am ddydd Gwener, 6 Tachwedd, gan ddod â chyn-filwyr lleol, gwirfoddolwyr a thrigolion ynghyd i gefnogi cadwraeth y gofeb ryfel bresennol ar Stryd Dunraven. Bydd y sesiwn yn ategu’r gwaith cadwraeth arbenigol ehangach sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y safle, gan roi cyfle hefyd i’r gymuned chwarae rhan uniongyrchol wrth ofalu am y nodwedd bwysig yma. Mae croeso i drigolion ddod draw a chymryd rhan.

Mae Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor yn dal i gasglu gwybodaeth ar gyfer Rhestr y Gwroniaid Tonypandy, er mwyn helpu i sicrhau bod y rhai a wasanaethodd ac a aberthodd yn cael eu cofio a’u cydnabod. Mae trigolion yn cael eu hannog i gyflwyno enwau, ffotograffau, dogfennau neu straeon teuluol drwy anfon e-bost at: GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae’n galonogol iawn gweld y gofeb bwysig yma'n cael ei symud i leoliad mwy hygyrch ac amlwg yn Nhonypandy. Mae'r symudiad yn gam sylweddol tuag at ddiogelu'r nodwedd bwysig yma, a sicrhau bod modd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ei gweld a'i gwerthfawrogi'n haws.

“Rydyn ni'n deall pa mor bwysig yw cyflwr ac edrychiad y gofeb i’r trigolion. Bydd glanhau ac ailysgrifennu'r llythrennau yn helpu i warchod y gofeb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac yn sicrhau ei bod hi'n parhau i fod yn deyrnged briodol i'r rhai a wasanaethodd ac a aberthodd.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hyd yma, yn ogystal â’r trigolion a dreuliodd amser i edrych ar y cynigion a rhannu eu barn. Byddwn ni'n parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned wrth i’r prosiect fynd rhagddo.”

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan gyllid o Gronfa Effaith 'Balchder Bro' Llywodraeth y DU, ac mae'n cyd-fynd â rhaglen fuddsoddi bum mlynedd y Cyngor – gwerth £250,000 – mewn cofebau rhyfel, sy'n rhedeg o 2022 i 2027.

Mae'r gwaith yn rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a gwarchod treftadaeth leol Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 26/10/2026