Mae Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Phobl Ifainc wedi ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn y Cymer. Mae hi wedi ymweld â'r ysgol er mwyn nodi'r gwaith cyntaf tuag at gyflawni buddsoddiad cyffrous gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer yr ysgol – ac i ddathlu ymrwymiad mawr parhaus y Cyngor i fuddsoddi mewn addysg Gymraeg.
Cafodd y Cynghorydd Sharon Rees ei chroesawu gan bennaeth yr ysgol, Craig Spanswick, ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd, ar ôl i waith galluogi ddechrau dros yr haf i ddymchwel dau floc addysgu presennol. Mae'r gwaith yn parhau, er mwyn paratoi ar gyfer y prif ddatblygiad yn y dyfodol – ac mae'n cael ei gyflawni drwy amharu cyn lleied â phosibl ar addysg y disgyblion.
Bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn cael adeilad newydd sbon a chwbl hygyrch ar y safle presennol, yn lle'r adeiladau presennol, gan greu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer hyd at 900 o ddisgyblion 11-19 oed (gan gynnwys 150 o ddisgyblion chweched dosbarth). Mae'r cynlluniau ar gyfer y datblygiad yn cynnwys ardaloedd awyr agored newydd a chyfleusterau chwaraeon gwell, a fydd ar gael i'w defnyddio gan yr ysgol a'r gymuned.
Bydd y buddsoddiad yn cael ei gyflawni ar y cyd â Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Cafodd y datblygiad ganiatâd cynllunio llawn yn gynharach eleni. Bydd yn cynyddu'n sylweddol nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i gymunedau lleol, yn unol â deilliannau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor.
Ar ei hymweliad, ymwelodd y Cynghorydd Rees â'r ysgol ac roedd modd iddi weld cynnydd y gwaith cychwynnol yma. Trafododd hefyd y cyfleoedd cyffrous y bydd y datblygiad yn y dyfodol yn eu cynnig i ddisgyblion lleol sy'n derbyn addysg Gymraeg.
Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: “Roeddwn i’n falch iawn o ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn gynnar yn y flwyddyn academaidd newydd, er mwyn gweld y gwaith sydd wedi’i gwblhau dros wyliau’r haf i ddymchwel blociau addysgu. Hwn yw'r gwaith cyntaf ar y safle a fydd yn cyflawni datblygiad modern, o’r radd flaenaf gyda chyfleusterau newydd sbon dros y blynyddoedd nesaf. Mae hefyd yn wych bod y prosiect yma'n cyd-ddigwydd â phen-blwydd yr ysgol yn 40 oed yn 2028.
“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i fuddsoddi mewn addysg Gymraeg, wrth i ni annog rhagor o deuluoedd i ddewis i'w plant gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2022, fe wnaethon ni gyflwyno cyfleusterau newydd sbon yn Ysgol Rhydywaun ym Mhenywaun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr, gan gynyddu eu capasiti. Yn dilyn hyn, buddsoddon ni mewn ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen, Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf, a agorodd yn 2024 – ynghyd â safle ysgol o’r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog yn 2025.
“Rydyn ni bellach yn canolbwyntio ar y cylch nesaf o fuddsoddiadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, yn rhan o ymrwymiad cyllid gwerth £414 miliwn gyda Llywodraeth Cymru. Yn rhan o hyn y mae datblygiad trawiadol Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn y dyfodol, ynghyd ag ysgol 3-19 oed a dosbarth meithrin newydd ar gyfer Ysgol Llanhari. Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno ar gyfer y datblygiad yma. Mae'r holl fuddsoddiadau yma'n dangos ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar waith, ac yn pwysleisio ein hymrwymiad i nod 'Cymraeg 2050' o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
“Cyfnod cyffrous iawn yw hwn i Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, ac rwy’n falch iawn o ddathlu carreg filltir bwysig y gwaith cyntaf ar y safle. Mae'r Cyngor yn gweithio'n ddiflino i drefnu'r prif gam datblygu. Rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i weld y safle'n trawsnewid ymhellach yn y dyfodol agos."
Meddai Craig Spanswick, Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhondda: “Mae gweld y gwaith adeiladu’n dechrau ar ein hysgol newydd yn gyffrous ac yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Dyma fuddsoddiad sylweddol mewn addysg Gymraeg gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ac yn un a fydd yn trawsnewid cyfleoedd i'n disgyblion, gan ddarparu amgylchedd dysgu modern a chyfleusterau ysbrydoledig lle bydd modd i bobl ifainc ffynnu a chyflawni eu llawn botensial.”
Dysgwch ragor am ein buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau addysg newydd ar gyfer ein hysgolion, drwy'r tudalennau gwe pwrpasol #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 11/09/2026