Skip to main content

Helpwch ni i hyrwyddo beicio hamdden yn Rhondda Cynon Taf.

rhigos cycling andrew cook

Image: Andrew Cook/VisitRCT

 Gyda golygfeydd anhygoel a thirweddau heriol, mae beicio yn Rhondda Cynon Taf yn hynod boblogaidd.

Mae carfanau Hamdden a Thwristiaeth y Cyngor yn dymuno adolygu'r llwybrau beicio hamdden presennol. Maen nhw am greu posteri gwybodaeth a chanllawiau ategol – ac rydyn ni angen eich help i gael yr olwynion yn troi!

Mae yna arolwg newydd i gasglu adborth gan y cyhoedd yn ymwneud â'r math o lwybrau yr hoffai pobl eu gweld yn cael eu cynnwys ar y daflen.

Rydyn ni eisiau deall sut mae pobl yn defnyddio'r llwybrau ar hyn o bryd, beth sy'n gweithio'n dda a'r pethau i'w gwella.

Mae hyn yn cynnwys defnydd y llwybrau, yn ogystal â'r mapiau, y taflenni a'r wybodaeth ar-lein maen nhw'n eu defnyddio ar hyn o bryd i ddewis a defnyddio'r llwybrau, cyfleusterau ac atyniadau cyfagos.

Mae modd i'r wybodaeth gynnwys llwybrau sy'n addas ar gyfer teuluoedd â phlant ifainc, y llwybrau heriol neu'r llwybrau sy'n cynnwys llefydd i fwyta neu yfed ar hyd y ffordd.

Bydd materion fel storio beiciau a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a pharcio hefyd yn cael eu trafod yn yr arolwg. Byddan nhw yna'n llywio'r cynlluniau terfynol ar gyfer y taflenni, a fydd yn cael eu cynllunio i helpu i wneud beicio'n hawdd ac yn hygyrch i bawb.

Mae Rhondda Cynon Taf eisoes yn gartref i amrywiaeth o lwybrau, diolch i'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol presennol, Llwybr Taith Taf a llwybrau a marchnadoedd cydnabyddedig eraill.

Nid bwriad y daflen wybodaeth newydd fydd cymryd lle'r rhai presennol, ond eu gwella nhw a sicrhau bod y cyhoedd yn cael mynediad at y llwybrau – fel bod modd i bobl eu mwynhau – ac i adlewyrchu anghenion trigolion o bob oed a diddordeb.

Mae cwblhau'r arolwg yn cymryd ychydig funudau yn unig ac mae modd ei gwblhau ar-lein yma.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Hamdden a Thwristiaeth: “Mae cannoedd o bobl yn defnyddio ffyrdd a llwybrau Rhondda Cynon Taf bob dydd, gan fwynhau golygfeydd godidog a’r tirweddau amrywiol wrth feicio.

“Drwy gydol ei yrfa beicio broffesiynol, defnyddiodd Syr Geraint Thomas ein ffyrdd mynyddig yn rhan o'i gynllun ymarfer. Mae'r Rhigos a'r Bwlch ymhlith y rhai mwyaf heriol yn yr ardal, ond yn dod â’r boddhad mwyaf i chi ar ôl eu cwblhau.

“Mae beicio yn rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau ac rydyn ni’n ffodus o gael cyfleusterau gwych yma yn Rhondda Cynon Taf. Ym Mharc Gwledig Barry Sidings, cewch chi drac beicio, llwybrau a'r siop beicio Bike Doctor. Yn ogystal â hyn, mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i'r trac beicio Disgyrchiant, sef y trac beicio teuluol cyntaf erioed ynghyd â nifer o lwybrau gwych eraill.

“Nod yr arolwg yw casglu cymaint o adborth â phosibl ynglŷn â pha wybodaeth sydd ei hangen ar bobl, fel bod modd i ni ddosbarthu'r taflenni a’r canllawiau ledled Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod ein parciau gwledig a llwybrau beicio yn fwrlwm o fwynhad.”

Mae cwblhau'r arolwg yn cymryd ychydig funudau yn unig ac mae modd ei gwblhau ar-lein yma.

Wedi ei bostio ar 15/09/2026