Skip to main content

Gofal yn y Cartref

Ein hamcan yw darparu cymorth i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi. Os ydych chi’n cael trafferth delio â’ch anghenion gofal personol, gall ein gwasanaeth gofal yn y cartref roi help llaw gydag ymdopi â bywyd bob dydd.

Efallai bod angen help arnoch chi i godi neu wisgo yn y bore, help i baratoi bwyd neu ddelio ag anghenion gofal personol eraill sy’n anodd eu cyflawni ar eich pen eich hun. Mae’n bosibl bod anabledd, salwch neu broblemau symudedd wedi dod yn sgil henaint. Fel arfer, mae’r gwasanaeth yma yn cael ei gynnig i’r rhai fyddai’n gorfod symud o’u cartrefi i fyw mewn gofal preswyl pe bai dim cymorth ar gael.

Weithiau gall cymorth dros dro gael ei drefnu i bobl sy’n gwella ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, neu i roi saib i’r cynhaliwr.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gyfrannu tuag at y gost o ddarparu Gofal yn y Cartref. Bydd swm y cyfraniad yn dibynnu ar ganlyniad asesiad ariannol y bydden ni’n gofyn i chi’i gael. Fyddwn ni ddim yn dechrau darparu gwasanaeth gofal yn y cartref hyd nes i chi wybod am y gost a sut i dalu. 

I gael rhagor o fanylion, ewch i’n tudalen Costau ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol dibreswyl. 

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Gofal yn y Cartref, cysylltwch â ni:
Ffôn: Carfan Ymateb ar Unwaith - 01443 425003
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Asesu'ch anghenion gofal yn y cartref

Cyn i chi dderbyn help oddi wrth ein carfan gofal yn y cartref, bydd rhaid i ni ganfod rhagor am eich amgylchiadau. Rydyn ni’n galw hyn yn ‘asesu anghenion’. Drwy ganfod rhagor am eich amgylchiadau gallwn ni sicrhau eich bod chi’n gymwys ar gyfer y gwasanaethau a darparu cymorth addas i chi. Os oes rhywun yn helpu gyda'ch gofal, gallwn ni asesu'i anghenion ef hefyd. Os ydych chi’n gymwys ar gyfer derbyn cymorth, byddwn ni’n gweithio gyda chi i lunio cynllun gofal addas er mwyn cwrdd â'ch gofynion.

Er mwyn trefnu asesiad i chi’ch hun neu i rywun rydych chi’n gofalu amdano, cysylltwch â ni ar:
Ffôn: 01443 425003
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ymhen amser gall eich amgylchiadau newid. Mae modd newid eich cynllun gofal yn ôl eich sefyllfa ar unrhyw adeg. Rhowch wybod i ni pan fydd rhywbeth yn newid er mwyn i ni allu ailystyried y cynllun a pharhau i ddarparu ar eich cyfer.

Gwybodaeth am y Gwasanaeth Gofal yn y Cartref

Dyma rai pethau i’w cofio am y gwasanaeth:

  • Ein hamcan yw darparu gwasanaethu hyblyg a threfnus.
  • Mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio a’i gyflwyno mewn modd sy’n gweddu i anghenion yr unigolyn.
  • Mae gweithwyr gofal yn cael eu goruchwylio a’u hyfforddi i sicrhau ystod eang o gymorth o safon uchel.
  • Byddwch chi’n cael gwybod ar ba ddiwrnodau ac amser bydd eich gweithiwr gofal yn galw heibio. Mewn achosion arbennig gallwn ni newid trefniadau os bydd yr amseroedd yn anghyfleus i chi.
  • Dydy hi ddim yn bosibl i’r un gweithiwr gofal alw bob tro ond byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os bydd newid.
  • Gall y cyfnod o amser sydd wedi ei bennu ar gyfer y gwasanaeth amrywio o bryd i’w gilydd. Byddwn ni’n ceisio rhoi gwybod i chi am hyn.
  • Bydd y gwasanaeth rydych chi’n ei dderbyn yn cael ei adolygu yn aml.
  • Gall gweithwyr Gofal Cartref ryddhau cynhalwyr o’u dyletswyddau gyda’u cymorth dibynadwy.

Pethau nad oes modd i Ofal yn y Cartref eu gwneud

  • Does dim hawl i weithwyr gofal wneud tasgau peryglus megis symud dodrefn trwm, gweithio o uchder neu ddefnyddio offer trydanol a all fod yn ddiffygiol.
  • Does dim hawl i weithwyr gofal gynnal unrhyw ddyletswyddau meddygol neu nyrsio. Serch hynny, mae modd i ni roi cyngor ar sut i dderbyn y cymorth perthnasol.
  • Dydyn ni ddim yn cael gweithio yn eich cartref heb i chi fod yno, oni bai bod hynny wedi ei gytuno â goruchwyliwr ymlaen llaw.
  • Does dim hawl i weithwyr gofal dderbyn arian nac anrhegion oddi wrthoch chi na’ch teulu neu brynu neu fenthyg unrhyw beth sy’n perthyn i chi.
  • Mae modd i chi ein helpu ni i’ch helpu chi. Rhowch wybod i ni os bydd eich sefyllfa yn newid er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaeth addas ar eich cyfer
  • Cofiwch adael i ni wybod os ydych chi’n bwriadu mynd i ffwrdd o’ch cartref.
    Bydd hyn yn osgoi gwastraffu amser teithio a gweithio
  • Rydyn ni’n awgrymu eich bod yn llunio polisi yswiriant cartref sy’n ymdrin ag unrhyw ddifrodau bychain

Eich cyfrifoldebau chi

Trefniadau Gofal Eraill

Mae nifer o fudiadau eraill sy’n darparu gwasanaeth tebyg i'n darpariaeth gofal cartref ni. Cysylltwch â’n Carfan Ymateb ar Unwaith a fydd yn gallu rhoi rhestr o ddarparwyr gofal cartref annibynnol i chi.

Cysylltu â Gwasanaethau Gofal yn y Cartref

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano angen cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, cysylltwch â’n Carfan Ymateb ar Unwaith am gyngor anffurfiol neu i drefnu asesiad gofal.

Carfan Ymateb ar Unwaith
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425003 / 01443 657225