Ydych chi angen cludiant ond yn methu â defnyddio'r gwasanaethau bws lleol yn Rhondda Cynon Taf? Os felly, cysylltwch â'ch cwmni cludiant cymunedol am gymorth.
Yn anad dim, gwasanaeth carreg y drws yw Cludiant Cymunedol. Mae ef wedi'i gynllunio’n arbennig i bobl sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl mynd ar fysiau cyffredin neu oddi arnyn nhw, neu sy'n cael trafferth i fynd i'r safle bysiau agosaf.
Yr hyn sy rhaid i chi ei wneud i fanteisio ar y Gwasanaeth Cludiant Cymunedol yw trefnu'ch taith ymlaen llaw. Bydd y bws yn dod i'ch cartref ac yn mynd â chi i le rydych chi eisiau mynd yn Rhondda Cynon Taf, neu i lefydd penodol eraill mewn ardaloedd eraill.
Gallwch chi drefnu i fynd i siopa, mynychu apwyntiadau meddygol, ymweliadau cymdeithasol neu am unrhyw reswm arall. Ond rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl cyn eich taith.
Pan fyddwch chi'n trefnu'ch taith, bydd rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad, yn ogystal â rhai manylion eraill ynghylch eich anghenion teithio. Mae manylion aelodaeth a chostau yn amrywio o un cwmni Cludiant Cymunedol i’r llall. Gallwch chi deithio ar eich pen eich hun neu yn rhan o grŵp.
Mae gan bob bws cludiant cymunedol offer arbennig i'ch helpu chi. Mae ganddyn nhw risiau isel a lifftiau i'w gwneud hi’n haws i chi fynd ar y bws ac oddi arno. Ydych chi'n defnyddio cadair olwyn? Bydd y gyrrwr a chynorthwyydd yn diogelu eich cadair olwyn ar y bws ac yn rhoi cymorth i chi fynd i'ch sedd, os byddwch chi’n dymuno hynny.
Mae staff Cludiant Cymunedol i gyd wedi'u hyfforddi mewn gweithdrefnau gofal teithwyr ac yn llwyr ymwybodol o anghenion hen bobl a phobl anabl. Mae'r staff yn gyfeillgar iawn a byddan nhw'n ceisio'u gorau glas ar bob adeg i roi help llaw.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaeth o unrhyw un o'r tri chwmni Cludiant Cymunedol isod. Gallwch chi hefyd gysylltu â nhw os ydych chi eisiau rhoi help llaw i bobl eraill drwy fod yn yrrwr gwirfoddol, neu os ydych chi am godi arian.
Accessible Caring Transport: 01443 478013
Erbyn hyn, gall trigolion fwynhau gwasanaeth gwell, diolch i'r darparwr cludiant cymunedol ‘Accessible Caring Transport’.
Cafodd gwasanaeth bws carreg y drws hyblyg newydd o'r enw RangeRider ei ddatblygu yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr ‘Accessible Caring Transport’. Bydd yn eu galluogi nhw i fynd i Ysbyty'r Tywysog Siarl ar gyfer clinigau ac i ymweld â phobl.
Dyma wasanaeth carreg y drws sydd wedi'i gynllunio yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl mynd ar fysiau neu oddi arnynt. Mae hyn yn cynnwys pobl â phroblemau symudedd sy'n ei chael hi'n anodd teithio neu'r rheiny sy'n byw milltiroedd i ffwrdd o'r safle bysiau agosaf.
Bydd y gwasanaeth newydd yn gweithredu rhwng 0700 - 1900 ar ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 0930 i 1700 ar ddydd Sadwrn. Bydd yn rhedeg ledled Cwm Cynon ac i ardaloedd cyfagos y tu allan i ffiniau'r ardal, fel Ysbyty'r Tywysog Siarl a chanol trefi Caerffili, Merthyr Tudful, Pontypridd a'r Porth.
Gall deiliaid tocyn mantais y bysiau deithio yn rhad ac am ddim. Bydd rhaid i deithwyr eraill dalu cyfradd unffurf ar gyfer pob taith sy'n cael ei gwneud yn yr ardal. Mae rhaid i daith gael ei threfnu cyn 12 ar y diwrnod cyn teithio.
TraVol: 01443 486872
Village & Valleys: 01443 858462