Skip to main content

Talu am wasanaethau gofal

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru godi incwm i helpu i dalu am y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu ac yn cyflwyno canllawiau taliadau tecach i roi gwybod i gynghorau am eu disgwyliadau. Mae hyn yn golygu y byddwn ni efallai yn gorfod gofyn i chi dalu rhywfaint tuag at gost y gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn gennyn ni. 

Pa wasanaethau fydd rhaid i mi dalu amdanyn nhw?

Mae’r gwasanaethau mae’n bosibl y byddwch chi’n gorfod talu cyfraniad tuag atyn nhw, yn cynnwys y canlynol:

  • Gofal cartref
  • Gwasanaethau gofal oriau dydd
  • Byw â chymorth
  • Taliadau uniongyrchol
  • Byw’n annibynnol
  • Teleofal (Telecare) - Haen 3


Fyddwch chi ddim yn gorfod talu am y gwasanaethau canlynol:

  • Cludiant i wasanaethau gofal oriau dydd
  • Cynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant mewn gwasanaethau gofal oriau dydd
  • Offer cymunedol

Mae rhai pobl wedi’u heithrio o dalu costau faint bynnag yw eu hincwm:

  • Dioddefwyr Afiechyd Creuzfeldt-Jakob (CJD)
  • Defnyddwyr gwasanaeth gyda phecynnau gofal trwy’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl (Adran 117)
  • Teuluoedd sy’n cael mynediad i gyfleusterau er mwyn eu cynorthwyo i gwrdd â’u cyfrifoldebau rhiant dros blant o dan 18 oed
  • Defnyddwyr gwasanaeth sy’n cael mynediad i wasanaethau sy’n cael eu darparu o dan Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000; a
  • Defnyddwyr gwasanaeth sy’n derbyn gwasanaethau gofal canolradd, dros gyfnod o hyd at 6 wythnos

Fyddwch chi ddim yn gorfod talu am wasanaethau iechyd.

Os ydych chi’n archebu prydau bwyd oddi wrth y Cyngor a/neu yn defnyddio offer Teleofal (Haen 1 a 2) byddwn ni’n gofyn i chi dalu am y rhain ar wahân.

Sut mae’r penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a fydda i’n gorfod talu cyfraniad tuag at gost y gwasanaeth?

Os ydych chi’n derbyn gwasanaeth rydyn ni’n codi tâl amdano, bydd angen i ni holi ynglŷn â’ch incwm wythnosol a’ch cynilion. Byddwn ni’n anfon ffurflen asesiad ariannol atoch chi y mae’n rhaid i chi ei chwblhau. Os nad ydych chi’n cwblhau’r ffurflen, bydd rhaid i chi dalu cost gymorthdaledig y gwasanaeth rydych chi’n ei dderbyn, hyd at y mwyafswm sydd wedi’i gytuno, bob wythnos.

Cewch chi gwblhau’r ffurflen eich hunan neu drefnu apwyntiad i swyddog ddod i’ch gweld yn eich cartref i’ch helpu chi i gwblhau’r ffurflen.

Byddwn ni’n disgwyl i chi neu’ch cynrychiolydd ariannol fod ar gael ar gyfer ymweliad asesiad ariannol cyn pen pythefnos i’r Garfan Asesu Ariannol gysylltu â chi. Os bydd yn well gyda chi gwblhau’r ffurflen asesiad ariannol trwy’r post, bydd disgwyl i chi ei dychwelyd o fewn pythefnos. Os bydd angen gwybodaeth bellach ar gyfer cwblhau’r ffurflen, yna byddwn ni’n disgwyl i chi roi’r wybodaeth cyn pen pythefnos i’r dyddiad gofynnon ni amdani.

Cewch ddod o hyd i ragor o fanylion am ein Polisi Taliadau Tecach trwy ddarllen ein ffeithlen, neu drwy gysylltu â’n

Carfan Cyllid
Ffôn 01443 680380 / 01443 680383