Skip to main content

Amlosgi

Cafodd Amlosgfa Glyn-taf ei hagor ym 1924, yr unfed ar bymtheg i agor ym Mhrydain. Serch hynny, am bron i ddeng mlynedd ar hugain, hon oedd yr unig amlosgfa yng Nghymru gyfan.

Yn ogystal â’r gerddi prydferth, mae dau gapel o ddyluniad traddodiadol sy’n ategu amgylchedd urddasol a heddychlon yr amlosgfa.

Noder: Mae rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn Amlosgfa Llwydcoed ac Amlosgfa Glyn-taf.  Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori'r rhai nad ydyn nhw'n gallu gwisgo gorchudd wyneb i lawrlwytho cerdyn eithrio                  

'Darlledu' gwasanaethau yn fyw mewn Amlosgfeydd.

Mae gan amlosgfeydd yng Nglyn-taf a Llwydcoed system sy'n rhoi modd i ddangos gwasanaethau yn fyw, felly gall teulu neu ffrindiau nad ydyn nhw'n gallu mynychu'r Amlosgfa weld y rhain.  Mae modd gweld y gwasanaeth fel mae'n digwydd – ‘ar y pryd’.  Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, caiff 120 o bobl fod yn bresnenol mewn gwasanaethau mewn amlosgfeydd. Bydd y ddau Gapel yn cael eu defnyddio yng Nglyn-taf at ddibenion sicrhau pellter cymdeithasol. Does dim unrhyw gyfyngiadau ar hyn o bryd mewn perthynas â bod yn bresennol mewn gwasanaethau claddu ym Mynwentydd RhCT. 

Mae modd trefnu'r gwasanaeth darlledu yma trwy eich Trefnydd Angladdau penodedig, a fydd wedi cael mynediad i'r systemau yn yr Amlosgfa.

Os ydych chi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, trafodwch hyn gyda'ch Trefnydd Angladdau penodedig neu cysylltwch â'r Gwasanaethau Profedigaeth ar 01443 402810 (Amlosgfa Glyn-taf) neu 01685 874115 (Amlosgfa Llwydcoed.) Mae modd gofyn am wybodaeth ac arweiniad ar y gwasanaeth hwn hefyd trwy anfon ebost i AmlosgfaGlyntaf@rctcbc.gov.uk neu AmlosgfaLlwydcoed@rctcbc.gov.uk

Pryd mae gwasanaethau amlosgi'n cael eu cynnal?

Mae modd cynnal gwasanaeth amlosgi bob 45 munud rhwng 9.00am a 3.45pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd y gwasanaeth yn para am hyd at 20 munud. Mae hyn yn ddigon o amser i alarwyr y gwasanaeth adael yr amlosgfa cyn i alarwyr y gwasanaeth nesaf ddechrau cyrraedd. Os oes angen
amser ychwanegol, mae modd trefnu hynny ymlaen llaw am dâl ychwanegol.

Mae modd bodloni pob gofyniad crefyddol a phob gofyniad nad yw’n grefyddol yn yr amlosgfa. Os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig, gwnewch y trefniadau perthnasol pan fyddwch chi’n trefnu’r gwasanaeth.

Ar ôl gwasanaeth amlosgi, caiff gweddillion eu trin â pharch ym mhob achos. Caiff pob amlosgiad ei gynnal yn uniongyrchol ar ôl y gwasanaeth amlosgi, yn unol â Chod Ymarfer Amlosgi Ffederasiwn Awdurdodau Amlosgi Prydain.

Beth sy’n digwydd ar ôl y gwasanaeth amlosgi?

Ar ôl y gwasanaeth, mae modd dewis ynghylch beth i'w wneud gyda’r gweddillion:

  • eu gwasgaru ar lawntiau yr Hen Ardd y tu ôl i’r colwmbariwm
  • eu gwasgaru ar lawntiau Gardd Coffa Newydd, sy’n amgylchynu Capel y Llyfr Coffa
  • eu claddu’n rhydd gyda llwyn rhosod sydd yma eisoes, neu gydag un newydd
  • eu gosod mewn wrn yn y colwmbariwm
  • eu claddu mewn rhandir neu fedd aelod o’r teulu
  • eu claddu mewn rhandir newydd

Mae hefyd yn bosibl casglu gweddillion o’r amlosgfa i’w claddu mewn mynwent arall neu i’w gwasgaru mewn lleoliad arall yn unol â’ch dewis personol.

Bydd staff yr amlosgfa’n cyflawni eich dymuniadau yn gyflym a chydag urddas. Mae hefyd yn bosibl trefnu i fod yn bresennol tra caiff y gweddillion eu claddu, a does dim tâl ychwanegol am hyn. Bydd y staff hefyd yn hapus i ddiwallu dymuniadau’r teulu, ac i wneud unrhyw drefniadau arbennig o ran y gwasanaeth. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhai teuluoedd am drefnu i’w Gweinidog neu eu Gweinyddwr eu hun gynnal y gwasanaeth.

Manylion Cyswllt

  • Amlosgfa Glyn-taf
  • Mynwent Glyn-taf
  • Mynwent Tŷ Rhiw
  • Mynwent Llanharan
  • Mynwent Cefn y Parc  
  • Mynwent Trealaw
  • Mynwent Treorci
  • Mynwent Glynrhedynog
  • Mynwent Pen-rhys

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer yr uchod:

Cemetery Road

Glyn-taf
Pontypridd
CF37 4BE  

Ffôn: 01443 402810
Ffacs: 01443 406052
  • Mynwent Aberdâr
  • Mynwent Maesyarian
  • Mynwent Abercynon
  • Mynwent Aberffrwd
  • Mynwent Brynygaer
  • Mynwent Ynys-y-bwl

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer mynwentydd:

Amlosgfa Llwydcoed

Llwydcoed
Aberdâr  

Ffôn: 01685 881891
Ffacs: 01685 885212