Skip to main content

Cynnig Gofal Plant – Gwybodaeth i Ddarparwyr

Beth yw'r Cynnig Gofal Plant i Gymru?
Mae'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu cyfuniad o hyd at 30 awr yr wythnos o addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen a gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol i rieni sy'n gweithio. Bydd y ddarpariaeth yma ar gael i blant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y Cynnig yn datblygu ar addysg Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen sydd eisoes ar gael i blant yn ystod tymor yr ysgol, a bydd yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am 9 wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol.

 

Yn RhCT, rydyn ni'n cynnig 15 awr o ddarpariaeth addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen, felly bydd plant cymwys yn gallu derbyn 15 awr ychwanegol o ofal plant wedi'i ariannu bob wythnos. Mae rhai ysgolion yn RhCT yn cynnig addysg llawn amser mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant oed meithrin. Yn yr achos yma, bydd plant cymwys yn derbyn gofal plant wedi'i ariannu o hyd am 9 wythnos o wyliau'r ysgol, ond yn ystod y tymor bydd eu hawl i'r Cynnig Gofal Plant yn dod o'u darpariaeth mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen.

 

Nodwch - mae nifer yr oriau o addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen sy'n cael ei chynnig yn amrywio rhwng Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Os oes plant o Awdurdodau Lleol gwahanol yn defnyddio'r cynnig yn eich lleoliad, bydd angen i chi wybod sawl awr ychwanegol o ofal plant wedi'i ariannu y mae gan bob plentyn hawl iddo. Ni ddylai cyfanswm yr addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen a'r gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol fod yn fwy na 30 awr yr wythnos.

 

Beth mae'n ei olygu i fi fel darparwr?
Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gydag AGC, mae modd i chi gael cyllid i blant cymwys sy'n manteisio ar y Cynnig yn eich lleoliad. Os ydych yn dymuno cymryd rhan a derbyn cyllid ar gyfer plant sy'n byw yn RhCT, rhaid i chi lofnodi Cytundeb Darparwr (isod) a'i ddychwelyd i'r Garfan Cynnig Gofal Plant yn RhCT.  Ar gyfer plant o Awdurdodau Lleol eraill, bydd angen i chi gysylltu â'u carfanau Cynnig Gofal Plant yn uniongyrchol a llofnodi eu cytundebau darparwyr.

Oes modd i mi dderbyn plant o wahanol Awdurdodau Lleol?
Oes, cyn belled bod y rhieni'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae hawl gyda nhw ddefnyddio lleoliadau sydd wedi'u cofrestru gydag AGC mewn unrhyw Awdurdod Lleol.  Y rhieni sy'n dewis eu darparwr. 

 

Oes angen i mi ddarparu addysg y Cyfnod Sylfaen i ddarparu elfen gofal plant y Cynnig? 
Nac oes. Bydd rhai plant yn parhau i fanteisio ar addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen mewn lleoliadau a gynhelir. Does dim angen i ddarparwyr gofal plant ddarparu elfennau addysg Meithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant y Cynnig fel ei gilydd.

 

Oes angen i mi allu darparu'r Cynnig am 48 wythnos y flwyddyn i gymryd rhan?
Nac oes. Mae modd i rieni ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal sy'n bodloni'u gofynion orau. Mae modd i ddarparwyr sy'n darparu gofal plant yn ystod y tymor yn unig, neu yn ystod y gwyliau yn unig, gymryd rhan yn y cynnig gan ddibynnu ar anghenion y rhieni.

Faint byddaf i'n cael fy nhalu?
Bydd pob darparwr yn cael ei dalu £4.50 yr awr am bob plentyn sy'n derbyn elfen gofal plant y cynnig.

Ydw i'n cael codi tâl ychwanegol ar rieni?
Nac ydych. Chewch chi ddim codi tâl ychwanegol ar rieni os ydych chi'n codi pris sy'n fwy na £4.50 yr awr.

Ydw i'n cael codi tâl ychwanegol am fwyd a gweithgareddau ychwanegol?
Ydw. Os oes angen, cewch godi tâl ychwanegol am bethau fel bwyd, trafnidiaeth (e.e. gollwng a chodi o'r ysgol) a gweithgareddau oddi ar y safle y mae'n rhaid talu amdanyn nhw.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ddylech chi ddim codi tâl ychwanegol ar rieni sy'n fwy na £7.50 y dydd am sesiwn diwrnod llawn (tua 10 awr). Byddai hyn yn cynnwys tri phryd o fwyd am £2 yr un a 2 byrbryd am 75c yr un. Am sesiynau hanner dydd (tua 5.5 awr) ddylech chi ddim codi tâl ychwanegol sy'n fwy na £4.75 (dau bryd o fwyd am £2 yr un a byrbryd am 75c). Am ofal fesul sesiwn sydd ddim yn cynnwys pryd o fwyd, ond mae plentyn yn derbyn byrbryd, mae'r canllawiau yn nodi ddylech chi ddim codi tâl ar rieni sy'n fwy na 75c am fyrbryd.

 

Sut byddaf i'n cael fy nhalu?
Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am sut i hawlio atoch chi ar ôl i chi gofrestru i gymryd rhan yn y Cynnig.

Sut ydw i'n cymryd rhan?
Er mwyn bod yn rhan o'r Cynnig yma, llenwch Ffurflen Cytundeb Darparwr a'i dychwelyd i'r Garfan Cynnig Plant trwy e-bostio cynniggofalplantcymrurhct@rctcbc.gov.uk neu drwy'r post i:


Carfan Cynnig Gofal Plant
Tŷ Trevithick
Heol Abercynon
CF45 4UQ