Skip to main content

Bandiau Treth y Cyngor

Bydd pob annedd yn derbyn bil Treth y Cyngor – gan gynnwys tai, tai unllawr, fflatiau, fflatiau deulawr, carafanau a chychod preswyl – sydd dan berchnogaeth neu sy'n cael ei rentu.

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (sy'n rhan o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi) yn dyrannu pob eiddo i un o naw band prisio yn unol â'i werth marchnad ar 1 Ebrill 2003. Bydd band eich eiddo i'w weld ar eich bil. Bydd eiddo mewn Band D yn talu'r tâl sylfaenol. Bydd eiddo mewn bandiau eraill yn talu'r tâl cyfrannol.

Dyma'r bandiau:

Dyma'r bandiau
Bandiau Treth y CyngorPrisiau tai
A Hyd at £44,000
B £44,001 hyd at £65,000
C £65,001 hyd at £91,000
D £91,001 hyd at £123,000
E £123,001 hyd at £162,000
F £162,001 hyd at £223,000
G £223,001 hyd at £324,000
H £324,001 hyd at £424,000
I £424,001 neu'n rhagor

Ydw i’n gallu apelio yn erbyn band prisio fy eiddo?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio eiddo domestig ar gyfer treth gyngor. Defnyddir y prisiad hwn i osod eich band treth gyngor. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r VOA os ydych chi’n credu bod eich band treth gyngor yn anghywir.

Gallwch ddarganfod mwy am bryd y gallwch herio’ch band a’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn gov.uk/challenge-council-tax-band. Os ydych chi’n herio’ch band, rhaid i chi barhau i dalu treth gyngor yn eich band cyfredol nes bod eich apêl yn cael ei phenderfynu.

Gallwch gysylltu â’r VOA yn gov.uk/cysylltu-voa. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu â’r VOA ar 03000 505 505.

Treth y Cyngor
Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST
Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708