Skip to main content

Talu Treth y Cyngor

Y Cyngor sy'n gyfrifol am gasglu Treth y Cyngor oddi wrth holl gartrefi'r ardal.

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol

Talu trwy ddebyd uniongyrchol yw'r ffordd haws, ddi-drafferth o dalu Treth y Cyngor. Mae'n ddiogel ac yn gyfleus. Gofynnwch i'ch teulu a'ch ffrindiau am eu barn nhw! 

Mae talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yn golygu:

  • Gallwch chi ddewis dyddiadau talu cyfleus;

  • Byddwch chi'n gwybod ymlaen llaw beth fydd y gost bob mis, felly, fydd dim angen i chi wastraffu amser yn y banc yn trefnu talu symiau gwahanol;

  • Cewch chi ad-daliad llawn ar unwaith gan eich banc os bydd y Cyngor, y Banc neu'r Gymdeithas Adeiladu yn gwneud camgymeriad;

  • Bydd hawl gennych chi i ganslo'r taliadau ar unrhyw adeg, drwy anfon llythyr i'ch Banc / Cymdeithas Adeiladu;

  • Fydd dim costau ychwanegol a bydd y cyfan yn digwydd yn awtomatig. 

Byddwch fel y 60,000 o aelwydydd sydd eisoes yn talu Treth y Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, a manteisio’n llawn ar y cynllun yma.        

Talu eich Treth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol

Oeddech chi'n gwybod bod ffordd lawer haws a diffwdan o dalu Treth y Cyngor? Chi sydd wrth y llyw wrth dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych chi am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch ni ar 01443 425002 a byddwn ni'n rhoi atebion i chi.

Talu ar-lein

Mae'n ddiogel, yn gyflym ac yn gyfleus.

Nodwch: I dalu ar-lein, bydd angen eich cyfeirnod Treth y Cyngor (sydd ar eich bil Treth y Cyngor) a cherdyn debyd neu gerdyn credyd.

Galw heibio

Gallwch chi dalu ag arian parod, siec, cerdyn debyd neu gerdyn credyd yn eich canolfan IbobUn agosaf.

payzoneSwyddfa'r Post/Payzone:

Defnyddiwch y barcod ar eich bil i dalu mewn unrhyw Swyddfa'r Post neu siop sy'n arddangos logo Payzone.

Treth y Cyngor

Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002

Minicom: 01443 680708