Fel arfer, bydd eiddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor pan fydd yr amgylchiadau canlynol yn gymwys.
Mae'r eiddo:
- yn dangos bod angen gwaith atgyweirio mawr arno neu fod gwaith atgyweirio mawr/newid strwythurol yn digwydd yno (mae modd cael eithriad am gyfnod hyd at flwyddyn neu am gyfnod o chwe mis hyd at ddyddiad gorffen y gwaith, p'un bynnag ddaw gyntaf)
- dan berchnogaeth elusen (eithriad am hyd at chwe mis yn unig)
- heb gelfi (eithriad am hyd at chwe mis yn unig)
- wedi'i adael yn wag gan berson sydd yn y carchar.
- wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud i dderbyn gofal personol mewn ysbyty, neu yn rhywle arall
- yn ystod cyfnod aros am brofiant neu lythyrau gweinyddu (eithriad am hyd at chwe mis ar ôl eu caniatáu).
- yn wag am fod meddiannaeth wedi'i gwahardd yn ôl y gyfraith.
- yn aros i gael ei feddiannu gan weinidog crefydd.
- wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud er mwyn rhoi gofal personol i berson arall
- yn eiddo i fyfyrwyr, ac wedi'i feddiannu diwethaf gan y myfyriwr hwnnw
- wedi'i adfeddiannu
- yn gyfrifoldeb ymddiriedolwr ar ran methdalwr.
- yn safle ar gyfer carafán neu gartref symudol unigol, neu angorfa.
- yn anodd ei roi ar osod oherwydd ei fod yn rhan o eiddo arall, neu ar dir eiddo arall, a does dim modd ei roi ar osod ar wahân i'r eiddo arall heb dorri caniatâd cynllunio. Serch hynny, rhaid i'r person atebol fyw yn yr eiddo arall er mwyn bod yn gymwys.
Ydych chi'n chwilio am eithriad ar gyfer eiddo gwag hirdymor neu ail gartrefi yn Rhondda Cynon Taf? Mae gennym fwy o wybodaeth am bremymau treth Cyngor ar gyfer eiddo gwag a thudalen ail gartrefi
Eithriadau ar gyfer eiddo sydd wedi'i feddiannu
- Wedi'i feddiannu yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr
- Mae'n farics lluoedd / barics milwyr priod. Bydd y rhai sy'n meddiannu'r eiddo yn cyfrannu at gostau gwasanaethau lleol drwy drefniant arbennig.
- Os yw o leiaf un person atebol yn aelod o lu ar ymweliad
- Lle mae'r holl breswylwyr yn 18 oed neu'n iau.
- Lle mae'r holl breswylwyr â nam meddyliol difrifol
- Lle mae o leiaf un person atebol yn aelod yn ddiplomydd tramor
- Ynghlwm wrth gartref teuluol ac sydd wedi'i feddiannu gan berson oedrannus neu anabl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu gwnewch gais am eithriad ar-lein.
Mae'n rhaid i chi barhau i dalu eich biliau Treth y Cyngor hyd nes y bydd canlyniad eich cais wedi ei benderfynu. Os bydd hyn yn achosi problemau i chi, cysylltwch â ni neu ewch i dudalen Anawsterau'n Talu Eich Bil am ragor o wybodaeth.
Canslo cais am eiddo sydd wedi'i eithrio rhag treth y cyngor
Ysgrifennwch at:
Tŷ Oldway,
Y Porth
CF39 9ST
Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708