Skip to main content

Strategaeth Dai leol

Cartrefi Llewyrchus, Bywydau Llewyrchus; Strategaeth Dai are gyfer Rhondda Cynon Taf

Cafodd strategaeth dai Rhondda Cynon Taf; Cartrefi Llewyrchus, Bywydau Llewyrchus (2024 – 2030) ei chymeradwyo gan y Cabinet ar 19 Chwefror 2025. 

Mae’r Strategaeth yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid i lunio a darparu tai a gwasanaethau tai sy’n ddiogel, yn fforddiadwy ac o safon dda dros y 6 mlynedd nesaf. Gyda gostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael yn y sector cyhoeddus, mae’s Strategaeth yn dibynnu ar ddawn greadigol, arloesedd a Gwaith mewn partneriaeth, gan ganolbwyntio ar fewnfuddsoddi gyda chyfeiriad strategol cadarn.

Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y strategaeth yw ei bod hi’n sicrhau ‘bod y farchnad dai yn Rhondda Cynon Taf yn cynnig mynediad i’n trigolion i gartrefi fforddiadwy o ansawdd da, yn y lle cywir ar yr amser cywir’.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth yma, caiff y Strategaeth ei chefnogi gan y pedwar amcan a ganlyn a fydd yn llywio ei chyflawniad:

  1. Galluogi marchnad dai weithredol sy’n diwallu anghenion ein cymunedau
  1. Hyrwyddo cymunedau cynaliadwy a chreu cartrefi sy’n ddiogel, yn gynnes ac yn iach drwy wella cyflwr tai a buddsoddi mewn adfywio cymunedol
  1. Galluogi mynediad i bob math o dai addas a fforddiadwy sy’n diwallu anghenion trigolion
  1. Creu cymunedau llewyrchus drwy sicrhau bod modd i drigolion gael gafael ar gyngor a chymorth yn ymwneud â materion tai sy’n diwallu eu hangenion

Mae'r Strategaeth Dai yn darparu'r canolbwynt ar gyfer cyflawni'r blaenoriaethau tai yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor, 'Gweithio gyda'n Cymunedau 2024-2030'. Bydd y Cyngor yn croesawu ei swyddogaethau a chyfrifoldebau amrywiol; y rhai strategol a gweithredol ar draws yr holl wasanaethau a sefydliadau tai, gan weithio ar y cyd i gyflawni'r amcanion.